Ffiseg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ffiseg |
|
Astudiaeth o natur yn yr ystyr ehangaf yw ffiseg (o'r Groeg "φυσικός", naturiol, a "φύσις", natur) (neu'r termau hynafol anianeg neu anianaeth). Mae ffisegwyr yn astudio ymddygiad mater, egni a grym. Fel arfer, mynegir deddfau ffiseg drwy gydberthnasau mathemategol.
Mae'r pynciau canlynol yn is-ddosbarthiad o'r pwnc.
- Atomau a Niwclysau
- Cerrynt Trydan
- Y Ddaear
- Egni
- Goleuni
- Grym
- Magnet
- Mudiant
- Seryddiaeth
- Pelydr
- Sain
- Ton
- Trydan
- Ynysydd
Mae gan ffiseg berthynas agos â'r gwyddorau naturiol eraill, yn enwedig cemeg. Gelwir cemeg ar sawl maes yn ffiseg, yn enwedig mecaneg cwantwm, thermodynameg ac electromagneteg. Er hynny, mae ffenomenau cemeg yn ddigon amrywiol a chymhleth i drin cemeg fel dysgyblaeth ar wahan. Sut bynnag, derbynwyd yn gyffredinolgan gemegwyr a ffisegwyr taw deddfau ffiseg sy'n disgrifio camau sylfaenol pob rhyngweithiad cemegol.
[golygu] Prif theorïau
Theori | Prif isbynciau | Cysyniadau |
---|---|---|
Mecaneg clasurol | Deddfau Mudiant Newton, Mecaneg Lagrange, Mecaneg Hamilton, Cinemateg, Stateg, Dynameg, Theori anhrefn, Acwsteg, Dynameg hylif, Mecaneg continwwm | Dwysedd, Dimensiwn, Disgyrchiant, Gofod, Amser, Mudiant, Hyd, Lleoliad, Buanedd, Cyflymiad, Màs, Momentwm, Grym, Egni, Momentwm onglaidd, Trorym, Deddf gadwraeth, Osgiliadur harmonig, Ton, Gwaith, Pŵer |
Electromagneteg | Electrostateg, Electrodynameg, Trydaneg, Magneteg, Hafaliadau Maxwell, Opteg | Cynhwysiant, Gwefr drydanol, Cerrynt, Maes magnetig, Athreiddedd magnetig |