Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Zheng He - Wicipedia

Zheng He

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Roedd Zheng He (1371 - 1435), neu Cheng Ho fel yr ysgrifir ei enw weithiau, yn forwr o China a fu'n gyfrifol am nifer o fordeithiau i wahanol rannau o'r byd rhwng 1405 a 1424.

Ei enw gwreiddiol oedd Ma Sanbao a ganwyd ef yn nhalaith Yunnan. Roedd yn Fwslim o ran crefydd. Pan goncrwyd Yunnan gan fyddin y frenhinllin Ming, cafodd Ma Sanbao ei gymeryd yn garcharor a'r wneud yn eunuch. Rhoddwyd yr enw Zheng He iddo yn ddiweddarach, a daeth yn gyfaill i'r Ymerawdr Yongle ac yn llynghesydd.

Aeth ar ei fordaith gyntaf yn 1405 gan alw mewn nifer o wledydd yn Ne-ddwyrain Asia. Un o'r mannau lle glaniodd oedd Semarang ar ynys Java, lle mae heddiw deml Sineaidd wedi ei chysegru iddo. Cynhaliwyd dathliadau yma yn 2005 i nodi chwe chan mlwyddiant ei ymweliad.

Mae'r Map Kangnido yn dyddio i 1402, felly cyn i Zheng He ddechrau ar ei fordeithiau. Mae'n dangos fod y Sineaid eisoes yn berchen ar gryn dipyn o wybodaeth am weledydd pellennig.
Ehangwch
Mae'r Map Kangnido yn dyddio i 1402, felly cyn i Zheng He ddechrau ar ei fordeithiau. Mae'n dangos fod y Sineaid eisoes yn berchen ar gryn dipyn o wybodaeth am weledydd pellennig.

Yn y blynyddoedd nesaf bu Zheng He a'r swyddogion dan ei awdurdod yn gyfrifol am gyfres o fordeithiau, gan gyrraedd cyn belled ag India a Sri Lanka, Iran, arfordir dwyreiniol Affrica ac yn ôl pob tebyg arfordir gogleddol Awstralia. Yr oedd nifer fawr o longau yn hwylio gyda'i gilydd, er enghraifft yn 1405 yr oedd gan Zheng He 27,000 o ddynion mewn 317 o longau, rhai ohonynt yn longau enfawr tua 120 medr (400 troedfedd) o hyd.

Bu farw'r Ymerawdr Yongle yn 1424 ac yn dilyn hyn bu newid polisi a daeth y mordeithiau mawr i ben. Bu farw Zheng He yn 1435.

Mae rhai awduron, er enghraifft Gavin Menzies, yn credu fod llongau Zheng He wedi cyrraedd yn llawer pellach na hyn, ei fod er enghraifft wedi cyrraedd America cyn Ferdinand Magellan a Christopher Columbus. Mae hyn yn bwnc dadleuol.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Louise Levathes, When China Ruled the Seas: The Treasure Fleet of the Dragon Throne, 1405-1433, Oxford University Press, 1997, trade paperback, ISBN 0195112075
  • Gavin Menzies, 1421: The Year the Chinese Discovered the World, Morrow/Avon, 2003, hardcover 576 pages, ISBN 0060537639.
Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com