Affrica
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Affrica neu Yr Affrig yw'r cyfandir mwyaf ond un yn nhermau arwynebedd a phoblogaeth, yn dilyn Asia. Mae tua 30,370,000 km² o dir yn Affrica - gan gynnwys ei hynysoedd cyfagos - sef 5.9% o arwynebedd y Ddaear, a 20.3% o arwynebedd tir y Ddaear. Mae dros 840,000,000 o bobl (2005) yn byw yng 61 tiriogaeth Affrica, sef dros 12% o boblogaeth ddynol y byd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Affrica yw'r mwyaf o'r tri allaniad deheuol enfawr o brif fàs arwynebedd y Ddaear. Mae ganddo arwynebedd o c. 30,360,288 km² (11,722,173 mi sg), gan gynnwys yr ynysoedd.
Saif y Môr Canoldir rhwng Affrica ac Ewrop, tra bod Culdir Suez yn ei chysylltu ag Asia (fe'i drawslunir gan Gamlas Suez), sydd 130 km (80 milltir) mewn lled. (Yn wleidyddol, ystyrir Penrhyn Sinai, yr Aifft, sydd i'r dwyrain o Gamlas Suez, fel rhan o Affrica hefyd.)
O'r pwynt mwyaf gogleddol sef Cape Blanc (Ra’s al Abyad) yn Nhunisia (37°21′ G), i'r pwynt mwyaf deheuol, sef Penrhyn Agulhas yn Ne Affrica (34°51′15″ D), mae pellter o tua 8,000 km (5,000 milltir). O'r pwynt mwyaf gorllewinol sef Penrhyn Vert, 17°33′22″ Gn, i'r pwynt mwyaf dwyreiniol sef Ras Hafun yn Somalia, 51°27′52″ Dn, mae pellter o tua 7,400 km (4,600 milltir).
Mae arfordir Affrica 26,000 km (16,100 milltir) o hyd. Wrth gymharu hyn ag Ewrop, sydd ag arwynebedd o 9,700,000 km² (3,760,000 mi sg) yn unig, tra bod hyd ei harfordir oddeutu 32,000 km (19,800 milltir), gwelwn fod siâp amlinelliad Affrica yn nodweddiadol rheolaidd, tra bod arfordir Ewrop yn llawn o ddanheddiadau dwfn.
[golygu] Hanes
Mae Affrica yn gartref i'r tir cyfannedd hynaf ar y ddaear, â'r hil ddynol yn tarddu o'r cyfandir yma. Yn ystod canol yr ugeinfed ganrif, darganfu anthropolegwyr nifer o ffosilau a thystiolaeth o feddiannaeth ddynol, cyn hyned â 7 miliwn o flynyddoedd efallai. Darganfu'r teulu Leakey enwog (sydd â chysylltiadau â Phrydain ag Affrica), gweddillion ffosilaidd nifer o rywogaethau o fodau dynol cynnar, oedd yn debyg i epaod, megis Australopithecus afarensis (wedi'i ddyddio'n radiometregol i 3.9-3.0 miliwn o flynyddoedd CC), Paranthropus boisei (2.3-1.4 miliwn CC) a Homo ergaster (c. 600,000-1.9 miliwn CC). Credir eu bod wedi esblygu'n ddyn modern. Mae'r rhain yn ddarganfyddiadau pwysig yn astudiaeth esblygiad dynol.
Yn 1482, sefydlodd y Portiwgaliaid y gyntaf o nifer o orsafoedd masnachu ar hyd arfordir Guinea, yn Elmina. Y prif nwyddau a fasnachwyd oedd caethweision, aur, ifori a sbeisiau. Cafodd darganfyddiad America yn 1492 ei ddilyn gan ddatblygiad mawr yn y fasnach caethweision.
Ond ar yr un pryd roedd caethwasiaeth yn dod i ben yn Ewrop, ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd y pweroedd ymerodraethol Ewropeaidd "Ymgiprys am Affrica". Meddiannon nhw ran fwyaf o'r cyfandir, a chreu nifer o wladwriaethau a chenhedloedd trefedigaethol, gan adael ddim ond dwy genedl annibynnol: Liberia, gwladfa'r Americanwyr Duon, ac Ethiopia. Parhaodd y feddiannaeth tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Wedi hynny, fe ennillodd y gwladwriaethau trefedigaethol annibyniaeth yn raddol, ac erbyn hyn maent i gyd yn annibynnol.
Heddiw, mae Affrica'n gartref i dros 50 o wledydd annibynnol, ac mae gan bob un ond am ddau yr un ffiniau a luniwyd yn ystod oes gwladychiaeth Ewropeaidd.
[golygu] Gwleidyddiaeth
[golygu] Affrica Drefedigaethol
Fe ddi-sefydlogodd gwladychiaeth cytbwysedd grwpiau ethnig niferus y cyfandir, effaith sydd i'w deimlo yng ngwleidyddiaeth Affrica hyd heddiw. Cyn dylanwad Ewropeaidd, nid oedd ffiniau cenedlaethol yn llawer o broblem, ac ar y cyfan fe ddilynodd Affricanwyr arferion ardaloedd eraill y byd, megis Arabia, lle'r oedd tiriogaeth grŵp yn gyfath â'i ddylanwad milwrol neu fasnachol. Roedd gan yr arferiad Ewropeaidd o lunio ffiniau o gwmpas tiriogaethau, i'w arwahanu o diriogaethau'r pŵeroedd trefedigaethol eraill, yr effaith o arwahanu grwpiau ethnig cyfagos, neu orfodi gelynion traddodiadol i gyd-fyw, heb wahandir rhyngddynt. Er enghraifft, er bod Afon y Congo yn ymddangos fel ffin ddaearyddol naturiol, roedd pobl y ddwy ochr yn rhannu iaith, diwylliant a sawl tebygrwydd arall. Roedd rhaniad y tir rhwng Gwlad Belg a Ffrainc ar hyd yr afon yn arwahanu'r grwpiau yma o'i gilydd. Roedd y rhai oedd yn byw yn y Sahara neu'r Sahel ac wedi arfer masnachu dros y cyfandir am ganrifoedd yn gorfod croesi "ffiniau" oedd yn bodoli dim ond ar fapiau Ewropeaidd.
[golygu] Economi
Poblogaeth: | 887 miliwn (14%) |
CMC (PPP): | US$1.635 triliwn |
CMC (Pres): | $558 biliwn |
CMC/pen (PPP): | $1,968 |
CMC/pen (Pres): | $671 |
Cynnydd blynyddol yn CMC y pen: |
0.74% (1990-2002) |
Incwm y 10% top: | 44.7% |
Miliwnyddion: | 0.1 miliwn (0.01%) |
Poblogaeth sy'n byw ar lai na $1 y dydd: |
36.2% |
Dyled allanol fel canran o CMC |
60.7 (1998) |
Taliadau dyled allanol fel canran o CMC |
4.2% |
Derbyniad cymorth tramor fel canran o CMC |
3.2% (2001) |
Amcangyfrif incwm benywaidd | 51.8% o'r incwm gwrywaidd |
Affrica yw gyfandir cyfannedd tlotaf y byd: darganfu Adroddiad Datblygiad Dynol 2003 y Cenhedloedd Unedig (o 175 o wledydd) caiff safleoedd 151 (Gambia) i 175 (Sierra Leone) eu cymryd i gyd gan wledydd Affricanaidd.
Fe gafodd Affrica trawsnewidiad ansefydlog ac ansicr o wladychiaeth, ac mae effeithiau hyn i'w gweld o hyd; mae cynydd llygredigaeth ac unbennaeth wedi cyfrannu'n sylweddol i'r sefyllfa economaidd wael. Er bod tyfiant cyflym yn China ac India erbyn hyn, a thyfiant cymedrol yn America Lladin, wedi codi miliynau tu hwnt i fywoliaeth ymgynhaliol, mae Affrica wedi symud tuag yn ôl yn nhermau masnach dramor, buddsoddiad, ac incwm y pen. Mae gan y tlodi yma effeithiau eang, yn cynnwys disgwyliad oes is, trais, ac ansefydlogrwydd - ffactorau sydd yn eu tro'n gwaethygu'r tlodi.
Mae llwyddiannau economaidd y cyfandir yn cynnwys Botswana a De Affrica, sydd wedi datblygu cymaint bod ganddo gyfnewidfa stoc aeddfed ei hun. Mae dwy brif reswm am hyn: cyfoeth nwyddau naturiol y wlad (prif gynhyrchydd aur a diemyntau'r byd); a system gyfreithiol sefydledig y wlad. Hefyd mae gan De Affrica mynediad i gyfalaf economaidd, nifer o farchnadoedd a llafur medrus. Mae gwledydd Affricanaidd eraill (megis Ghana) yn gwella'n gymharol, ac mae gan rai (megis yr Aifft) hanes hir o lwyddiant masnachol ac economaidd.
[golygu] Ieithoedd
Mae rhan fwyaf o amcangyfrifon yn dweud fod gan Affrica dros fil o ieithoedd. Mae yna bedwar prif deulu iaith sy'n frodorol i Affrica.
- Mae'r ieithoedd Affro-Asiatig yn deulu iaith o tua 240 o ieithoedd a 285 miliwn o bobl yng Ngogledd Affrica, Dwyrain Affrica, y Sahel, a De Orllewin Asia.
- Mae'r ieithoedd Nilo-Saharaidd yn cynnwys dros gant o ieithoedd siaradwyd gan 30 miliwn o bobl. Siaradir ieithoedd Nilo-Saharaidd yn bennaf yn Tchad, Swdan, Ethiopia, Iwganda, Cenia, a gogledd Tansania.
- Siaradir ieithoedd Niger-Congo dros ran fwyaf o'r tir i dde'r Sahara. Mae siwr o fod yn deulu iaith fwyaf y byd yn nhermau ieithoedd gwahanol. Mae nifer sylweddol ohonynt yn ieithoedd Bantu.
- Mae'r teulu iaith Khoisan yn cynnwys tua 50 o ieithoedd siaradir gan 120 000 o bobl yn Ne Affrica. Mae rhan fwyaf o'r ieithoedd Khoisan mewn perygl. Ystyrir y bobl Khoikhoi a San yn drigolion gwreiddiol y rhan yma o Affrica.
[golygu] Gwledydd Affrica
[golygu] Gogledd Affrica
Mae gogledd Affrica yn sych iawn ac yn llawn diffeithiwch.
[golygu] Gorllewin Affrica
- Benin
- Burkina Faso
- Cabo Verde
- Côte d'Ivoire
- Y Gambia
- Ghana
- Guinéa
- Guinéa-Bissau
- Liberia
- Mali
- Mauritania
- Niger
- Nigeria
- Sénégal
- Sierra Leone
- Togo
[golygu] Canolbarth Affrica
Mae canol Affrica wedi ei gorchuddio â fforestydd, ac mae'n boeth a gwlyb iawn yno. Mae'r cyhydedd yn mynd trwy ganol Affrica.
- Angola
- Camerŵn
- Gweriniaeth Canolbarth Affrica
- Guinea Gyhydeddol
- Gabon
- Gweriniaeth y Congo (Brazzaville)
- Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo (Kinshasa, gynt galwad Zaire)
- São Tomé a Príncipe
- Tchad
[golygu] Dwyrain Affrica
- Bwrwndi
- Comoros
- Iwganda
- Kenya
- Madagascar
- Malawi
- Mauritius
- Mosambic
- Rwanda
- Sambia
- Seychelles
- Simbabwe
- Tansania
[golygu] Horn Affrica
[golygu] De Affrica
[golygu] Gweler hefyd
Cyfandiroedd y Ddaear | ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
||||||||||||||||||||||||||||
Affrica-Ewrasia |
Yr Amerig |
Ewrasia |
||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||
Affrica |
Antarctica |
Asia |
Ewrop |
Gogledd America |
De America |
Oceania |
||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||
Uwchgyfandiroedd daearegol : Gondwana · Lawrasia · Pangaea · Pannotia · Rodinia · Colwmbia · Kenorland · Ur · Vaalbara | ||||||||||||||||||||||||||||
|
Rhanbarthau'r Ddaear | |||
Yr Affrig | Canolbarth · De · Dwyrain · Gogledd · Gorllewin | ||
---|---|---|---|
Yr Amerig | Y Caribî · Canolbarth · De · Gogledd · Lladin | ||
Asia | Canolbarth · De · De Ddwyrain · De Orllewin · Dwyrain · Gogledd | ||
Ewrop | Canolbarth · De · Dwyrain · Gogledd · Gorllewin | ||
Oceania | Awstralia · Melanesia · Micronesia · Polynesia · Seland Newydd | ||
|
|||
Y Pegynau | Yr Arctig · Yr Antarctig | ||
Cefnforoedd | Arctig · De · India · Iwerydd · Tawel |