Rhyngrwyd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yn gyffredinol y Rhyngrwyd yw system o rwydweithiau cyfrifiadurol byd-eang sydd wedi eu cysylltu â'i gilydd, ac sydd hefyd ar gael i'r cyhoedd. Mae'n trosglwyddo amrywiaeth o ddata gan gynnwys lluniau, fideo a thestun, ac yn cludo amrywiaeth o wybodaeth a gwasanaethau. Y gwasanaethau mwyaf amlwg yn strwythur y Rhyngrwyd yw'r we fyd-eang (www.)ac e-bost. Mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng yr we a'r Rhyngrwyd. Dim ond un rhan o'r Rhyngrwyd yw'r We er bod tuedd heddiw i weld y ddwy elfen fel yr un system. Gellir dweud yr un peth am y system e-bost. Gellir cael mynediad at y we drwy nifer o borwyr adnabyddus. Yr un mwyaf poblogaidd yw Internet Explorer, a gynhyrchwyd gan Microsoft. Mae Firefox hefyd yn boblogaidd. Porwyr eraill yw Opera a Netscape (y porwr gwreiddol).
Mae angen cyfrifiadur i gysylltu â'r rhyngrwyd.
[golygu] Cysylltiadau allanol
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.