Muhammad
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sylfaenydd y grefydd Islam oedd Muhammad neu Mohamed (570 - 8 Mehefin 632). Ganwyd ef ym Mecca yn fab i Abd Allah a oedd yn aelod o deulu Hashim o lwyth y Quraysh a bu farw yn Medina yn Saudi Arabia. Bu farw ei dad cyn iddo gael ei eni a bu ei fam, Amina, farw pan oedd yn chwech. Cafodd weledigaeth yn 610, y gyntaf o nifer. Gweledd yr angel Gabriel a chlywed llais yn dweud wrth 'Adrodd'. Ar ôl oedi yn y diwedd derbyniodd Muhammad yr alwad. Arwyddocad y weledigaeth oedd iddo fod yn lladmerydd 'r gwirionedd dwyfol.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.