Ieithyddiaeth
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ieithyddiaeth |
Ieithyddiaeth ddamcaniaethol |
Seineg |
Seinyddiaeth |
Morffoleg |
Cystrawen |
Semanteg |
Semanteg eiriadurol |
Arddullegol |
Pragmateg |
Ieithyddiaeth gymhwysol |
Ieithyddiaeth hanesyddol |
Ieithyddiaeth wybyddol |
Ieithyddiaeth yw'r astudiaeth o ieithoedd.
[golygu] Termau a Diffiniadau
Mae hi'n anodd iawn torri llinell yn y fan lle ddaw iaith yn amrywiad lleol, yn dafodiaith neu yn iaith hollol wahanol. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng iaith lafar, iaith gyffredin, patwa, pisin neu creol? Anodd dweud; pwnc sy'n codi llawer o ymryson.
- Creol : iaith gymysg wedi sylfaenu fel arfer ar Ffrangeg, Saesneg neu Portiwgaleg. Gweler hefyd Siamaiceg.
- Cyfystyr : Gair sy'n debyg yn ei ystyr i air arall.
- Eingl-Saesneg : hen Saesneg, cyn 1066.
- Engrish : Ymadroddion Saesneg yn Siapaneg.
- Franglais : Ymadroddion Saesneg yn Ffrangeg.
- Geiriadur : Llyfr sy'n egluro geiriau a'u hystyron.
- Gwrthwynebair : Gair sy'n hollol groes yn ei ystyr i air arall.
- Japlish : Saesneg sy'n cael ei siarad gan y Siapaneaid. Yr acen Siapanaidd-Americanaidd a siaredir gan deganau electronig.
- Lefel medru iaith : Er engraifft ar eich C.V. (heb gynnwys addysg uwchradd);- Iaith gyntaf - rhugl - da - ychydig wybodaeth.
- Lingua franca : Iaith sy'n cael ei siarad rhwng rhai na sydd yn medru ieithoedd cyntaf eu gilydd. (Gwrthwynebair - tafodiaith leol)
- Malu awyr : Siarad yn ddi-baid a dweud dim byd yn y diwedd.
- Malu cachu : Tebyg i falu awyr ond wrth ymffrostio neu dweud pethau sy'n anodd eu coelio. Mae yna wahaniaeth rhwng malu cachu a dweud celwyddau. Mae anwireddwr yn gwybod fod e'n dweud celwydd. Mae e'n dweud celwydd er mwyn twyllo, ond bydd y malwr cachu yn malio dim os ydy e'n dweud y gwir neu beidio, dim ond bod ganddo gynilleidfa, ond dydy e ddim yn twyllo neb!
- Patwa (Patois) : Tafodiaith leol, fel arfer gydag elfennau Ffrangeg.
- Pisin : Lingua franca a siaradir yn Papwa Gini Newydd, yn ynysoedd y Môr Tawel ac yn Camerŵn.
- Rock English : Saesneg (craig) Gibraltar sy'n cynnwys ymadroddion Sbaeneg.
- Tafodiaith : iaith lafar / iaith gyffredin ardal
- Wenglish : Tafodiaith Saesneg sy'n cael ei siarad gan y Cymry.
- Ystrydeb : Dywediad sydd fel arfer wedi colli ei ystyr gwreiddiol ar ôl ei or-ddefnyddio. (= cliché)
Gwyddorau cymdeithas |
---|
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg |
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg |