Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Addysg - Wicipedia

Addysg

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Addysg yw'r gwyddor cymdeithas sy'n ymdrin â dysgu gwybodaeth, cred a sgiliau.

[golygu] Gwelwch hefyd


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.


[golygu] Arddulliau

{angen ei symud!--Llygad Ebrill 14:09, 26 Hydref 2006 (UTC)}

Dysgu heb feirniadu

Mae magu hunan hyder yn y myfyrwyr yn bwysig fel ei bod yn hyderus eu bod yn gallu dysgu eu hunain. Os awn yn ôl eto i ystyried sut mae babi bach yn dysgu cerdded rydym yn gweld ei fod yn gwneud hynny heb fawr ddim cyfarwyddid gan ei fam. Mae’r babi yn gwneud ei ymdrechion i gerdded heb unrhyw feirniadaeth gan y fam ei fod yn drwsgl neu araf yn dysgu. Nid yw’r babi yn beirniadu ei hun gwaith, nac yn teimlo embaras wrth fethu cerdded yn berffaith y tro cyntaf. Na mae’r babi yn dysgu cerdded heb “ymdrechu yn galed” ond drwy ymarfer ei allu heb feirniadu ei ymdrechion. Mae’r babi yn gadael i’w gorff wneud y gwaith, ac mae’n hyderus y bydd ei gorff yn llwyddo un dydd i gerdded.

Fel oedolion rydym ni wedi dysgu i feirniadu ein hymdrechion i ddysgu pethau a thrwy hynny gosod rhwystr o deimlad o embaras bob tro rydym yn methu cyflawni tasg. Gwelwn dau fath o fyfyrwyr yn ein dosbarthiadau sef y rhai sy’n meddwl yn gadarnhaol ac yn orhyderus yn ei gallu, a’r lleill sydd yn meddwl yn negyddol a heb unrhyw hyder. Mewn ffordd mae'r rhai sy’n meddwl yn gadarnhaol a’r rhai sy’n meddwl yn negyddol yn mynd ati i ddysgu mewn modd anghywir. Y ffordd orau o ddysgu, yw ffordd y babi, sef i feddwl yn agored ac i beidio a bod yn feirniadol o’r ymdrechion i weld yn dda nac yn ddrwg. Mae'r person gyda meddwl agored, sydd ddim yn feirniadol o’i hun yn gallu derbyn llwyddiant neu fethiant fel ei gilydd nid fel asesiad o’i hun fel person ond fel cerrig filltir wrthrychol ar hyd y ffordd o ddysgu ei hun. Mae myfyriwr gyda meddwl agored yn mynd i ymlacio yn y wers ac felly yn mynd i ddysgu yn well heb y pryder o fod eisiau gwneud yn “dda” neu’r ofn o wneud yn “ddrwg”.

Mae yna lyfr da ar y pwnc yma gan W. Timothy Gallwey “The Inner Game of Tennis” sy’n trafod egwyddorion dysgu yn gyffredinol ac nid yn unig am y gêm o dennis. Mae’n egluro fod gyda ni ddau “hunan” neu ego sef Hunan1 a Hunan2. Mae Hunan1 yn rheoli’r meddwl, ac yn gosod targedau i’w cyflawni. Mae’r Hunan1 yn feiniadol iawn pan mae'r targedau ddim yn cael eu cyflawni, ac yn llawn pryder am fethiant. Rydyn rydym ni i gyd yn adnabod Hunan1! Mae Hunan2 ar y llaw arall yn gwneud yr hyn sy’n rhaid ei wneud er mwyn i ni fyw. Hunan 2 sy’n anadlu ac yn darllen y geiriau yma ac yn prosesu'r wybodaeth yn ddiarwybod yn ein hymennydd. Hunan2 yw ein corff, ein meddwl ein cof a’n system nerfol- sef y mecanwaith gymhleth sy’n ein cadw ni yn fyw ac yn mynd. Yr hyn y mae W Timothy Gallwey yn ei awgrymu yw bod ein Hunan2 yn gallu gweithio yn llawer gwell heb ymyrraeth yr Hunan 1 beirniadol. Heb y teimlad o embaras pan fyddwn yn gwneud camgymeriad wrth ddysgu. Felly mae Gallwey yn awgrymu fod angen i ni ddysgu i dawelu'r Hunan1 er mwyn dysgu, gan adael i Hunan2 wneud y gwaith.

Ymlacio i ddysgu

Ceir sylwadau tebyg yn llyfr deyrnged Gwilym O. Roberts “Amddifad Gri”(Y Lolfa) lle mae sôn am “ollwng yr hunan er mwyn dod o hyd i’r hunan” ac mai “Yr hunan yw gelyn mwya’r hunan”. Pwysleisia Gwilym O Roberts “Y llonyddwch effro”, sef y syniad ein bod ni ar ein gorau i ddysgu pethau pan mae ein meddwl yn llonydd fel “y môr o wydr” , heb bryder nac ofn. Dyma’r fath o agwedd y dylem feithrin yn ein myfyrwyr sef y ffaith fod modd dysgu drwy wneud camgymeriadau, yn hytrach na gweld camgymeriad fel embaras a methiant. Mae llawer o’r oedolion sy’n dod i addysg bellach wedi cael profiadau gwael yn yr ysgol a heb hyder yn y byd yn ei gallu ei hunain. Mae ambell hyn yn ymddangos yn orhyderus er mwyn cuddio ei gwir ofnau mewn methiant. Mae cael gwared â’r pryderon a’r ofnau yma yn gam mawr ymlaen i fyfyrwyr ddechrau dysgu drwy beidio a bod yn orfeirniadol o’i hunain.


Yr ymennydd a dysgu

Mae dysgu yn digwydd yn ei hymennydd ac felly mae hi’n bwysig ein bod ni yn ymwybodol o sut mae’r ymennydd yn gweithio. Dim ond yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi gwneud astudiaeth fanwl o’r ymennydd.. Mae yna ddwy ran i’r ymennydd sef y rhan dde a’r rhan chwith. Mae y rhan dde o’r ymennydd yn gyfrifol am : Rhythm a cherdd Dychymyg Lliw Maint a gofod

Tra bod ochr chwith yr ymennydd yn gyfrifol am brosesu: Rhesymeg Iaith Rhif Trefn Dadansoddi

Mae’n rhaid i ni ddefnyddio dwy ochr ymennydd myfyrwyr drwy sicrhau ein bod yn defnyddio lliw a rhythm a dychymyg yn ogystal â’r tair “r” draddodiadol - sef darllen ,ysgrifennu a rhifyddeg. Mae'r dychymyg yn bwysig i gofio pethau a hefyd mae arogl yn sbardun cryf i’r cof. Faint ohonom sydd heb gael y profiad o arogli rhywbeth a hwnnw yn ein hatgoffa o ryw ddigwyddiad neu sefyllfa arbennig? Eto faint sy’n defnyddio arogl yn y dosbarth er mwyn i’r myfyrwyr gofio? Mae yna sawl llyfr gan Tony Buzan ar y pwnc yma megis “Use your head” a’r “Brain User’s Guide”.

Un o syniadau Tony Buzan yw'r “Map Meddwl” sef dull o gofnodi darlithoedd er mwyn eu cofio. Dull arferol myfyrwyr o gofnodi darlith yw drwy ysgrifennu nodiadau ar ffurf geiriau a brawddegau a rhestrau a rhifau. Ond dim ond yr hanner chwith o’r ymennydd a ddefnyddir wrth wneud nodiadau yn y ffurf yma. Er mwyn defnyddio'r ymennydd cyfan mae Buzan yn awgrymu defnyddio map meddwl drwy osod prif bwyntiau'r ddarlith ar ffurf delweddau a llinellau lliwgar sy’n haws i’r cof . Gosodir y prif bwynt allweddol ar ganol tudalen wag ac yna cysylltir hwn i’r man bwyntiau ar weddill y ddalen drwy ddarlunio llinellau cyswllt rhyngddynt. Gellir defnyddio geiriau neu ddelweddau bychain ar draws y map meddwl sy’n dadansoddi’r ddarlith ac yn gosod is bwyntiau i’r brif thema wedi ei chysylltu â llinellau.

Y Cof a Dysgu

Cyn oes y llyfr printiedig a cyn i’r rhan fwyaf o bobl ddysgu ysgrifennu roedd pobl yn defnyddio llawer iawn fwy ar eu cof er mwyn dysgu pethau. Roedd yr hen Geltiaid yn cadw ei holl wybodaeth yn eu cof gan nad oeddynt yn ysgrifennu dim. Yn wir un o orchestion academyddion yr oes oedd bod ganddynt gwell cof na gweddill y boblogaeth. Yn y Canol Oesoedd roedd pobl yn credu mai'r cof oedd y peth pwysig mewn dysg. Disgrifir pobl fwyaf dysgedig y cyfnod fel y bobl gyda’r cof gorau. Roedd cof gwych yn arwydd o gymeriad moesol a deallus. Yn ôl pobl y Canol Oesoedd cof oedd yn gwneud gwybodaeth yn brofiad defnyddiol, gan eu galluogi i farnu gwerth pethau. Heddiw rydym yn tueddu i ddibrisio’r cof gan werthfawrogi dychymyg yn fwy. Ond yn y Canol Oesoedd nid oedd llyfrau printiedig ar gael ac nid oedd ysgrifennu ar femrwn yn beth hawdd na rhad i’w wneud. Felly roedd yn rhaid i berson dysgedig ddatblygu cof da fel rhan o’i addysg yn y celfyddydau o ramadeg, rhesymeg a rhethreg. Roedd hi’n bosib i’r cof oedd wedi ei hyfforddi a’i ddisgyblu yn dda i drefnu gwybodaeth er mwyn creu barddoniaeth a rhyddiaith, neu i fedru’r gelfyddyd o areithio neu rethreg. Felly roedd gwerth arbennig i hyfforddi’r cof fel arf pwysig i unrhyw berson dysgedig. Nid oedd gan yr ysgrifennydd llawer o statws yn y Canol Oesoedd, roedd yn cael ei weld fel gwas (yr enw gwreiddiol ar ysgrifennydd oedd “pensil”) yn cyflawni’r grefft isel o gopïo ysgrifen. Yn wir dywedodd Cicero “Ni ddylem ysgrifennu unrhyw beth nad ydym yn bwriadu ei osod ar ein cof”. Roedd ysgrifennu yn cael ei weld fel gwas i’r cof, ac roedd y llyfrau cynnar yn cael ei defnyddio er mwyn hyfforddi’r cof. Dyma oedd un rheswm am y darluniau a’r llythrennau hyfryd a welir yn Llyfr Kells, er mwyn bod yn gymorth i bobl ddysgu’r Beibl ar eu cof drwy gofio’r darluniau o gwmpas y geiriau.

Dywedodd Albertus Magnus “Nad oedd rhywbeth yn ddigon diogel drwy ei glywed, ond roedd yn cael ei gwneud yn gadarn drwy ei weld” Mae yn dyfynnu Horace a ddywedodd yn Ars poetica “ Mae pethau a ymddiriedir i’r glust yn gadael llai o argraff ar ein meddwl na’r hyn a ddangosir i’n llygaid dibynadwy”. Y wers i ni fel darlithwyr yw bod ein myfyrwyr yn cofio’n well ar ôl iddynt weld yn ogystal â chlywed pethau. Roedd y Groegwyr wedi defnyddio’r eikon neu eicon fel modd i ddangos pethau i’r llygaid gofio.

Dyfeisiwyd sawl ffordd o gofio gwybodaeth. Mae Tony Buzan yn sôn hefyd am ddulliau eraill o helpu myfyrwyr i gofio pethau ac mae’n awgrymu y dylem :- Greu cysylltiad rhwng un peth a’r llall Greu delweddau sy’n haws eu cofio na geiriau Defnyddio rhigymau i gofio pethau Gosod trefn ar bethau Maen haws cofio pethau mewn trioedd na rhestr hir

[golygu] Gweler Hefyd


Gwyddorau cymdeithas
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg
Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com