Yasser Arafat
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Wedi'i eni yn ninas Cairo, yr Aifft, ystyrir Yasser Arafat ( 4 Awst neu 24 Awst 1929 - 11 Tachwedd 2004) yn ymladdwr dros ryddid Palesteina gan ei gefnogwyr, tra y gwelir ef fel terfysgwr gan eraill gan gynnwys Israel. Roedd yn gyd-sefydlydd Mudiad Rhyddid Palesteina (PLO} a'i gadeirydd ers 1969, ac o dan faner y mudiad hwnnw bu'n gyfrifol am lu o ymosodiadau ar Iddewon ac Arabiaid fel ei gilydd. Daeth wedyn yn Llywydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, ac yn gyd-enillydd Gwobr Nobel Dros Heddwch yn 1994.
Trwy'r rhan fwyaf o'i yrfa, bu'n brwydro dros ddileu'r Wladwriaeth Iddewig yn gyfan gwbl oddi ar fap y Dwyrain Canol, ac er iddo gydnabod hawl Israel i fodoli yn yr 1990au cynnar, roedd llawer o Iddewon yn dal i fod yn ddrwgdybus iawn ei gylch. Bu hefyd yn gorfod brwydro gydag arweinwyr cenhedloedd Arabaidd eraill, fel yr Aifft a Gwlad Iorddonen, a oedd yn gweld ei fudiad yn fygythiad iddyn nhw.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.