Y Rhyfel Saith Mlynedd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yn ystod y Rhyfel Saith Mlynedd (1756-1763) roedd Prydain Fawr, Prwsia a Hanofer a'r naill ocher yn brwydro yn erbyn Ffrainc, Awstria, Sweden a Sacsoni a'r llall. Am fod y mwyafrif o gwledydd mawr Ewrop yn ymglymedig i'r rhyfel a brwydrau ledled Ewrop yn ogystal ac yn ardaloedd sydd heddiw yn rhan o Ganada, Unol Daleithiau America, India a'r Môr Caribaidd, gellir dweud fod hi wedi bod y wir "rhyfel byd cyntaf". Hwyrach, roedd Sbaen a Portiwgal yn cymryd rhan hefyd ac oedd ymosodiad ar byddyn yr Iseldiroedd yn India, er roedden nhw ei hynain yn amhleidiol.
Roedd y rhyfel hon yn dilyn y Rhyfel ar gyfer Olyniaeth Awstria ar ôl yr hyn cafodd ddim pob broblem ei dartys er fod Ewrop yn newid yn gyflym gyda Ffrainc, Awstria a Rwsia, sydd wedi bod yn elynion ers ganrifoedd, yn gydweithio. Roedd hynny yn fygythiad i Brwsia -- a roedd Prydain yn ddechrau poeni am Hanofer. Fel hynny, roedd yn naturol fod Prydain a Phrwsia yn cydweithio, hefyd. Achos arall y rhyfel roedd cystadleuaeth rhwng Prydain a Ffrainc ar gyfer gwladfeydd.
O ganlyniad y cytundebau heddwch ac arwyddwyd ar 10 Chwefror, 1763 ym Mharis rhwng Prydain a Portiwgal ar naill ochr a Ffrainc a Sbaen ar llall, roedd pethau yn newid yn y gwladfeydd. Cafodd Prydain Fflorida o Sbaen a gorfododd Ffrainc rhoi'r ardal i'r gorllewin yr Afon Mississippi i Sbaen. Collodd Ffrainc Canada, yr ardaloedd i'r dwyrain yr Afon Mississippi ac yr ardaloedd o amgylch y Llynnoedd Mawr i Brydain. Fel hynny, doedd dim ond New Orleans, y rhan gorllewin Hispaniola (heddiw: Haiti) a nifer o ynysoedd eraill yn diroegaeth Ffrainc ar ôl y rhyfel. A collodd Ffrainc ei thirogaeth yn India, Senegambien (heddiw: Senegal a Gambia) ayyb. i Brydain, hefyd.
Ar 15 Chwefror, 1763 arwyddwyd cytundeb heddwch rhwng Prwsia a'i elynion sydd yn gwrthdroi y ffiniau i'r rheini o flaen y rhyfel.
O ganlyniad y rhyfel hon daeth Prwsia i fod un o'r pump gwledydd cryfaf Ewrop. Collodd Ffrainc bron ei holl gwladfeydd a felly daeth yr wlad yn awyddus iawn am dialedd yn erbyn Prydain. A daeth Prydain yn wlad cryfaf y byd, yn arbennig ar y môr, a gan y gwladfeydd ehangaf.