Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Y Môr Du - Wicipedia

Y Môr Du

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Llun lloeren o'r Môr Du (NASA MODIS)
Ehangwch
Llun lloeren o'r Môr Du (NASA MODIS)

Môr sy'n gorwedd rhwng de-ddwyrain Ewrop ac Asia Leiaf ydy'r Môr Du (Pontus Euxinus y Groegiaid). Mae'n cysylltu â'r Môr Canoldir trwy gulfor y Bosporus a Môr Marmara, ac â Môr Azof trwy Gulfor Kerch.

Trwy'r Bosporus mae 200 km² o ddŵr hallt yn llifo i mewn i'r Môr Du bob blwyddyn, ac mae tua 320 km² o ddŵr ffres y flwyddyn yn dod o'r ardaloedd o gwmpas y Môr Du, yn bennaf o ddwyrain a chanolbarth Ewrop. Yr afon fwyaf sydd yn llifo i'r Môr Du yw Afon Donaw. Maint arwynebedd y Môr Du yw 422,000 km², a'i ddyfnder mwyaf yw 2210m.

Y gwledydd o gwmpas y Môr Du yw Twrci, Bwlgaria, Romania, Wcráin, Rwsia a Georgia. Gweriniaeth hunanlywodraethol sydd yn perthyn i'r Wcráin yw'r Crimea.

Mae'r dinasoedd pwysig ar arfordir y Môr Du yn cynnwys: Istanbul (Caergystennin, neu Byzantium gynt), Burgas, Varna, Constanta, Tulcea, Yalta, Odessa, Sevastopol, Batumi, Trabzon, Samsun a Zonguldak.

[golygu] Daeareg

Y Môr Du yw'r system morol heb ocsigen mwyaf yn y byd am ei fod yn ddwfn iawn gyda dim ond mymryn o halen ynddi. Felly mae'r dŵr ffres a'r dŵr hallt sydd yn llifo i mewn i'r Môr Du dim ond yn cymysgu â'r dŵr yn haen uchaf ei ddyfroedd, hyd at ddyfnder o 100m i 150m. Nid yw'r dŵr sydd yn ddyfnach na hynny yn newid ond unwaith mewn mil o flynyddoedd. Mewn canlyniad, dim ond ychydig o ocsigen sy'n mynd i lefelau dwfn y môr ac mae mater organeb sydd yn pydru ar waelod y môr a'r gwaddodiadau yn treulio pob mymryn o ocsigen sydd ar gael.

Am fod cyn lleied o ocsigen yn y dŵr, gall micro-organebau sydd yn defnyddio sylffad i dorri mater organebol i lawer ac yn cynhyrchu hydrogen sylffid (HS) a charbon deiocsid byw yn y haen dyfnaf. Wrth gwrs, mae amgylchedd fel hyn yn wenwynol iawn i'r mwyafrif o blanhigion ac anifeiliaid a felly mae'r rhan fwyaf ohonynt yn byw yn yr haen uchaf.

[golygu] Hanes

Mae rhai arbennigwyr yn meddwl mai'r tiroedd o amgylch y Môr Du oedd cartref gwreiddiol y Proto-Indo-Ewropeaidd, ond mae eraill yn meddwl fod hynny i'w lleoli rhywle yng nghyffiniau Môr Caspia.

Ym 1997 cyhoeddwyd damcaniaeth gan William Ryan a Walter Pitman o'r Prifysgol Columbia fod gorlif fawr iawn wedi rhedeg trwy'r Bosporus tua'r flwyddyn 5600 C.C.. Milau o flynyddoed cyn hynny roedd dŵr oedd yn dod o rewlifau wedi toddi yn llifo i'r Môr Du a Môr Caspia a fel hynny roedd eu lefelau'n codi. Pan ddiflanodd y rhewlifau aeth dŵr yr afonydd yn llai a gostyngodd lefelau'r Môr Du a'r Môr Caspia eto. Ar ôl hynny, o gwmpas 5600 C.C., cododd lefelau'r moroedd eraill a gorlifodd y Môr Canoldir i'r Môr Du. Mewn canlyniad roedd tua 155,000 km² (tua 60,000 milltir²) o dir dan dŵr a newidiwyd y Môr Du o lyn dŵr ffres i fôr dŵr hallt.

Mae'n debyg i'r bobl a oedd yn dianc am eu bywyd ffoi i'r gogledd-orllewin i Ewrop a lledaenu amaethyddiaeth yno. Mae'n bosib hefyd fod y cof am y gorlif hon wrth wraidd y traddodiad am y Dilyw yn y Beibl.

Darganfu'r archaeolegydd Robert Ballard draethlinau hynafol, cregyn malwod dŵr ffres, dyffrynnoedd hynafol a choed wedi ei siapio gan offer yn nyfroedd y Môr Du hyd at ddyfnder o 100m (300 troeddfedd) i lawr ger arfordir Twrci.

Enwyd y môr yn Fôr Du gan forwyr Groegaidd cynnar am fod ei liw yn dywyllach na hynny'r Môr Canoldir. Mewn wirionedd, ni ellir weld ond hyd at 5m (15 troeddfedd) i lawr yn y Môr Du, ond gellir gweld hyd at 30m (100 troeddfedd) i lawr yn y Môr Canoldir.

Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com