Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Y Môr Coch - Wicipedia

Y Môr Coch

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Map o'r Môr Coch
Ehangwch
Map o'r Môr Coch
Delwedd loeren o'r Môr Coch
Ehangwch
Delwedd loeren o'r Môr Coch
Hen ffresgo o Dura Europos yn dangos Moses yn arwain ei bobl trwy'r Môr Coch
Ehangwch
Hen ffresgo o Dura Europos yn dangos Moses yn arwain ei bobl trwy'r Môr Coch
Pysgod ar rîff cwrel, Môr Coch yr Aifft
Ehangwch
Pysgod ar rîff cwrel, Môr Coch yr Aifft

Mae'r Môr Coch yn fraich hir gul o Gefnfor India sy'n gorwedd rhwng gogledd-ddwyrain Affrica a gorynys Arabia yng Ngorllewin Asia. Yn ddaearegol mae'n rhan o Ddyffryn y Rhwyg Mawr (Great Rift Valley). Ei arwynebedd yw 438,000 km² (169,076 milltir²).

Taflen Cynnwys

[golygu] Daearyddiaeth

Mae'n ymestyn tua 2400 km (1490 milltir) i'r gogledd-ogledd-orllewin o Gulfor Bab el-Mandeb rhwng Gwlff Aden a'r Môr Coch ei hun, sy'n ddarn bach o fôr rhwng Bab el-Mandeb yn Djibouti a phwynt mwyaf gorllewinol yr Yemen. Yn y gogledd fe'i cysylltir â'r Môr Canoldir gan Culfor Suez a Chamlas Suez. Yn ei ben gogleddol hefyd mae Gwlff Aqaba yn ymestyn i'r gogledd-ddwyrain rhwng Sinai a Saudi Arabia ac mae gan Israel a Gwlad Iorddonen stribyn cul o dir yn ei ben eithaf.

Ar ei lannau mae arfordiroedd yr Aifft, Sudan, Ethiopia a Djibouti yn Affrica ac Yemen, Saudi Arabia a'r Sinai (yn yr Aifft) yng Ngorllewin Asia.

[golygu] Hanes

Yn hanesyddol mae'r Môr Coch wastad wedi bod yn sianel pwysig i fasnach forol ond tyfodd yn gyflym mewn pwysigrwydd yn sgîl agor Camlas Suez yn 1869.

Yr Eifftwyr Hynafol oedd y cyntaf i geisio archwilio'r Môr Coch. Yn y Beibl mae hanes yr Exodus yn adrodd sut y bu i Moses arwain yr Israeliaid drwy ddyfroedd y môr (cyfeiriad at y Môr Pabwyr hynafol, ar safle Culfor Suez heddiw, efallai) a boddi o fyddin Pharo ynddo.

Fodd bynnag, morwr Groegaidd o'r enw Hippalus a roddodd gyhoeddusrwydd rhyngwladol fel petai i'r Môr Coch trwy ei gyfrol ar fordaith i gyffiniau Eritrea; agorwyd masnach eang a buddiol rhwng Ewrop ac Asia mewn canlyniad. Am ganrifoedd bu morwyr Arabaidd yn hwylio'r môr yn eu dhows, rhwng Affrica ac Arabia ac rhwng yr Aifft ac is-gyfandir India.

Bu'n rhaid aros tan y 15fed ganrif i Ewrop ddechrau cymryd diddordeb yn y môr. Yn 1798 gorchmynodd Ffrainc i Napoleon Bonaparte oresgyn yr Aifft a dwyn y Môr Coch. Er iddo fethu yn ei ymdrech arweiniodd hynny i'r peirianydd J.B. Lepere ail edrych ar gynlluniau i adeiladu camlas, syniad a wyntyllwyd am y tro cyntaf yn oes y Pharos. Agorwyd Camlas Suez yn 1869. Y pryd hynny rhannai Prydain, Ffrainc a'r Eidal wersyllfaoedd masnach yno.

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd bu'r ardal yn destun ymgiprys am ddylanwad rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd; yn y cyfamser tyfodd maint y drafnidiaeth llongau olew yn sylweddol. Fodd bynnag, mewn canlyniad i'r Rhyfel Chwech Diwrnod caewyd Camlas Suez o 1967 hyd 1975 a lleihaewyd y drafnidiaeth. Byth ers hynny nid yw Suez a'r Môr Coch wedi adfer eu lle yn wyneb cystadleuaeth o lwybr forol Penrhyn Gobaith Da.

[golygu] Trefi a dinasoedd

Mae'r trefi a dinasoedd ar lan y Môr Coch yn cynnwys:

  • Aqaba العقبة ,
  • Arkiko,
  • Assab,
  • Dahabدهب ,
  • Eilat אילת ,
  • Hala'ib حلايب ,
  • Al Hudaydah الحديدة,
  • Hurghada الغردقة,
  • Jeddahجدة ,
  • Marsa Alamمرسى علم ,
  • Massawa,
  • Nuweiba نويبع ,
  • Port Safaga ميناء سفاجا ,
  • Port Sudan بورت سودان ,
  • Sharm el Sheikh شرم الشيخ ,
  • Suakin سواكن,
  • El Suweis السويس ,
  • Taba الطور,
  • El-Tor الطور

[golygu] Gweler hefyd

[golygu] Dolen allanol

Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com