Y Cefnfor Tawel
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Y cefnfor mwyaf yn y byd yw'r Cefnfor Tawel, rhwng Asia yn y gorllewin a De a Gogledd America yn y dwyrain. Mae ynysoedd niferus yn y cefnfor hwn sydd yn cael eu dosbarthu i Melanesia, Polynesia a Micronesia, dosbarthiad diwyllianol yn hytrach na dosbarthiad daearyddol. Moroedd sydd yn perthyn i'r Cefnfor Tawel yw Môr Bering, Môr Okhotsk, Môr Japan, Y Môr Melyn, Môr Dwyrain China, Môr De China, Y Môr Cwrel a Môr Tasman.
Mae llawer o wledydd ar arfordir y cefnfor hwn: Rwsia, Japan, Taiwan, Pilipinas, Indonesia, Papua Guinea Newydd, Awstralia, Seland Newydd, Fiji, Kiribati, Ynysoedd Marshall, Taleithiau Ffederal Micronesia, Nauru, Palau, Samoa, Ynysoedd Solomon, Tonga, Tuvalu, Vanuatu, Unol Daleithiau America, Canada, México, Guatemala, El Salvador, Honduras, Nicaragua, Costa Rica, Panamá, Colombia, Ecuador, Periw a Chile.
Mae ganddo arwynebedd o 179.7 miliwn km² ac mae'n cynnwys tua 723.7 miliwn km³ o ddŵr. Mae dyfnder cyfartalog y cefnfor tawel oddeutu 4,028 m, ac mae'n cynnwys y lle dyfnaf yn y byd: dyffryn hollt Marianas sydd yn 11,034m o dan lefel môr cymedrig. Mae 15,500 km (9,600 milltir) o bellter rhwng y Môr Bering yn y gogledd a Môr Ross yn Antarctica yn y dde, a 19,800 km (12,300 milltir) o Indonesia i glannau Colombia.
O'r Cefnfor Tawel gellir mynd i Gefnfor Arctig trwy Môr Bering, i Gefnfor Iwerydd trwy Gamlas Panamá neu rownd Yr Horn, ac i Gefnfor India o gwmpas Awstralia neu trwy ynysoedd de-ddwyrain Asia a Chulfor Melaka, un o'r dyfrffyrdd prysuraf y byd.