Telyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Offeryn cerdd gyda tannau yw'r Delyn.
Cyfeirir at y delyn yn y Beibl, ac mewn hen lawysgrifau Cymraeg.
Yn ôl Cyfraith Hywel Dda byddai'r brenin yn rhoi offeryn cerdd i'r pencerdd, - telyn, crwth neu bibcorn. Roedd tri math o delyn yn ôl cyfraith Hywel. Roedd telyn y brenin a telyn y pencerdd werth cant ac ugain o geiniogau, tra roedd telyn uchelwr werth trigain ceiniog.
Mae Gerallt Gymro yn sôn am delyn Wyddelig a oedd yn fach a boliog gyda thannau pres, tra roedd yr un Gymreig yn ysgafnach â thannau rhawn iddi.
Mae nifer o'r beirdd yn disgrifio'r delyn yn ei barddoniaeth. Mae'n ymddangos fod y delyn Gymreig yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg â cholofn syth iddi gyda'r seinfwlch wedi ei naddu o un darn o gelynen neu ywen.
Roedd Llanrwst yn enwog am ei gwneuthurwyr telyn. Gwnaeth John Richards, Llanrwst 1711 - 1789, er engraifft delyn deires yn 1755 i John Parry (Parry Ddall Rhiwabon) o Wynnstay, Rhiwabon.