Llanrwst
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Llanrwst Conwy |
|
Mae Llanrwst yn dref fechan ar lan Afon Conwy yn Sir Conwy. Tyfodd y dref o gwmpas y diwydiant gwlân. Roedd gwneud telynnau yn ddiwydiant poblogaidd yno hefyd. Erbyn heddiw twristiaeth yw'r prif ddiwydiant ynghyd ag amaethyddiaeth.
[golygu] Yr Eglwys
Adeiladwyd yr eglwys, sy'n gysegredig i Grwst Sant, yn 1170, ond mae'r safle'n hŷn na hynny. Yn yr eglwys mae Capel Gwydir ac yno ceir gweld beddrod Llywelyn Fawr. Yno hefyd mae beddrod cerfiedig i goffháu Hywel Coetmor.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ym 1951 a 1989. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1951
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1989
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Colwyn | Betws-y-Coed | Conwy | Dolwyddelan | Llandudno | Llanfairfechan | Llanrwst | Penmaenmawr |