Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
St Petersburg - Wicipedia

St Petersburg

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Yr Hermitage (o'r chwith i'r dde): Theatr yr Hermitage, Yr hen Hermitage, Yr Hermitage bychan, Palas y Gaeaf
Ehangwch
Yr Hermitage (o'r chwith i'r dde): Theatr yr Hermitage, Yr hen Hermitage, Yr Hermitage bychan, Palas y Gaeaf

Dinas ar lan y Môr Baltig yng ngogledd-orllewin Rwsia yw St Petersburg (Rwsieg Санкть–Петербург / Sankt-Peterbúrg; Petrograd / Петроград 1914–24, Leningrad / Ленинград 1924–91). Sefydlwyd gan Pedr Fawr. Hi oedd prifddinas Rwsia yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hi yw ail ddinas fwyaf Rwsia heddiw ac ym 2002 roedd mwy na 4,700,000 o bobl yn byw yno.

[golygu] Hanes

Yn wahanol i unrhyw ddinas arall yn Rwsia, adeiladwyd St Petersburg yn yr arddull glasurol a oedd yn boblogaidd yn Ewrop
Ehangwch
Yn wahanol i unrhyw ddinas arall yn Rwsia, adeiladwyd St Petersburg yn yr arddull glasurol a oedd yn boblogaidd yn Ewrop

Sefydlwyd y ddinas fel ffenestr ar y Gorllewin gan Pedr Fawr ar 16 / 27 Mai 1703, pryd gosodwyd sylfaen Caer Pedr a Phawl ganddo. Ddechrau'r un fis, roedd y Rwsiaid wedi cipio'r ardal (Ingria) a chaer Nyen (hefyd Nyenschanz) oddiwrth Sweden. Rhoddodd yr enw "St Petersburg" arni ar ôl enw ei nawddsant, yr apostol San Pedr. Yn y cyfnod hwnnw ceir hefyd enw Iseldireg ar y ddinas, Sankt Piter Bourgh neu St Petersburch, gan fod Pedr Fawr yn byw ac yn astudio yn Amsterdam a Zaandam am beth amser ym 1697. Sefydlwyd y dref ger olion y caer Swedaidd nes at aber yr Neva.

Adeiladwyd y dref yn ystod rhyfel a'i adeilad cyntaf oedd y caer (Caer Pedr a Phawl) a'r ddinas yn cael ei hadeiladu o'i gwmpas gan beirianyddion o'r Almaen a wahoddwyd i Rwsia gan Pedr. Sefydlwyid y ddinas fel prifddinas newydd Rwsia. Gan ei bod ar arfordir y Môr Baltig roedd hi'n gyswllt pwysig i wledydd y gorllewin yn ogystal â phorthladd milwrol pwysig iawn gan gaer Kronstadt yn ei hamddiffyn.

Daeth elît y wlad i fyw yn St Petersburg ac erbyn heddiw mae llawer o'u plasdai yn y ddinas. Y mwyaf o'r rhain oedd Plas y Gaeaf a adeiladwyd gan Elisabeth o Rwsia rhwng 1754 a 1762. Lleolir Amgueddfa Genedlaethol yr Hermitage yno heddiw.

Rhyddhaodd Alexander II y taeogion ym 1861 ac o ganlyniad daeth llawer o bobl tlawd i'r ddinas. Ond roedd diwydiant yn llwyddiannus hefyd. Yn ogystal â hynny, roedd y ddinas yn ganolfan ddiwylliannol y wlad, gyda llawer o arlunwyr ac awduron yn byw yno. Bu syniadau sosialaidd yn boblogaidd yn y ddinas ymysg deallusion ac yn St Petersburg y dechreuodd Chwyldro Rwsia 1905.

Ar 18 / 31 Awst 1914 yn ystod Rhyfel Byd Cyntaf newidodd tsar Nicolas II enw'r ddinas i "Petrograd" am fod "St Petersburg" yn swnio'n rhy Almaeneg.

Ym 1917 dechreuodd Chwyldro Rwsia, ac o ganlyniad roedd daeth rheolaeth y tsar i ben a Gwrthryfel Rwsia yn dechrau. Roedd hinsawdd gwleidyddol y ddinas yn ansefydlog iawn ac felly symudodd Lenin, arweinwr y Bolsieficiaid, y brifddinas o Petrograd i Moscfa. Ers hynny Moscfa yw prifddinas Rwsia. Ar 26 Ionawr 1924, tair blynedd ar ôl i Lenin farw, ailenwyd y ddinas unwaith eto i "Leningrad".

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwarchaewyd Leningrad o 8 Medi 1941 tan 27 Ionawr 1944 gan fyddin yr Almaen. Yn ystod yr adeg hon daeth nwyddau dros iâ Llyn Lagoda am gyfnod, ond bu farw 80,000 o'r 3,000,000 o drigolion yn y ddinas o newyn.

Newidwyd enw'r ddinas i St Petersburg, ei henw gwreiddiol, ar 6 Medi 1991 ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd, ond mae'r ardal o'i chwmpas ond enw swyddogol ei rhanbarth (oblast) o hyd yw Oblast Leningrad.

[golygu] Enwau'r ddinas

Enw O Hyd
St Petersburg 16 / 27 Mai 1703 18 / 31 Awst 1914
Petrograd 18 / 31 Awst 1914 26 Ionawr 1924
Leningrad 26 Ionawr 1924 6 Medi 1991
St Petersburg 6 Medi 1991 heddiw
Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com