Sosialaeth
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sosialaeth yw'r enw a roddir ar gasgliad o ideolegau sy'n ffafrio system sosio-economaidd lle mae eiddo a dosbarthiad cyfoeth yn cael eu rheoli gan gymdeithas.[1]
Gellir olrhain gwreiddyn y mudiad sosialaeth modern yn bennaf at fudiad dosbarth gweithiol y 19eg ganrif. Yn y cyfnod hwn, defnyddiwyd y term "sosialaeth" yn gyntaf pan yn cyfeirio at feirniaid cymdeithasol Ewropeaidd oedd yn collfarnu cyfalafiaeth ac eiddo personol. Un fu'n rhannol gyfrifol am sefydlu a diffinio'r mudiad sosialaeth modern oedd Karl Marx. Credai ef y dylid diddymu arian, marchnadoedd, cyfalaf, a llafur fel cynwydd.
Yn nhreigl amser, rhannodd y mudiad yn garfannau gwahanol, ac erbyn hyn mae cryn wahaniaeth rhwng y sosialwyr cymhedrol ar un pegwn a'r comiwnyddwyr ar y llall.
[golygu] Ffynonellau
- ↑ "Socialism." Encyclopædia Britannica. 2006. Encyclopædia Britannica ar-lein.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.