Seren
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Clystwr o beli o nwy sydd yn cael eu rhyddhau gan adweithion niwclear y tu mewn iddynt yw Seren ac mae hyn yn gwneud iddi oleuo'n llachar yn y nen. Y lluosog yw Sêr. Yr haul yw'r seren agosaf at y ddaear. Yr enw ar astudiaeth o'r sêr yw seryddiaeth.
Mae seren yn cael ei hynni o'r adweithiau thermoniwclear yn ei chanol poeth. Mae ein Haul ni yn seren o fath cyffredin; mae màs sêr yn amrywio o 0.05 i 60 gwaith màs yr Haul.
Mae màs seren yn penderfynu ei disgleirdeb, tymheredd ei wyneb, ei maint a phriodolaethau eraill, ynghyd â'i chwrs esblygol a'i hoes; uched y màs, disgleiriach, poethach a mwyaf y seren.
Yn ystod eu hoes mae sêr yn esblygu, proses a elwir yn esblygu seryddol. Mae seren ifanc yn esblygu o'r cyflwr o fod yn egin-seren i'r cyflwr lle maent yn cynhyrchu ynni trwy'r broses o ffiwsiwn thermoniwclear hydrogen i ffurfio heliwm:
- H > He
Mae'r broses elfennol hon yn parhau am tua 10¹° o flynyddoedd yn achos seren o fàs tebyg i'r Haul ond dim ond am ychydig o filiynau o flynyddoedd yn achos sêr anferth. Pan fo'r hydrogen wedi'i llosgi i fyny'n llwyr mae sêr yn troi'n sêr cawraidd, a'r rhai o fàs tebyg i'r haul yn troi'n gewri coch. Mae sêr o fàs isel, ar y llaw arall, yn tueddu i droi'n gorachod gwynion ar ddiwedd eu hoes.
Mae rhai o'r sêr mwyaf yn gorffen eu rhawd mewn ffrwydriad supernova anferth, gyda'r hyn sy'n weddill ohonynt yn ffurfio naill ai sêr niwtron neu dyllau duon, yn ôl eu màs.
Ni ddosberthir sêr yn gyson trwy'r bydysawd, ond yn hytrach caent eu cynullio mewn cynulliadau anferth a elwir galaethau mewn canlyniad i rymusterau disgyrchiant.
Mae ein seren ni, yr Haul, yn rhan o'n galaeth lleol, Y Llwybr Llaethog, wedi'i lleoli ar un o freichiau allanol y galaeth. Mae'r seren agosaf i'r haul 4.3 blwyddyn goleuni i ffwrdd.