Lawrence o Arabia
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Thomas Edward Lawrence (16 Awst 1888 - 19 Mai 1935) yn archeolegydd, yn filwr ac yn awdur. Mae'n enwog fel Lawrence o Arabia oherwydd ei ran yng ngwrthrhyfel yr Arabiaid yn erbyn y Twrciaid.
Roedd hynafiaid Lawrence yn dod o Loegr ac Iwerddon, ond fe'i ganwyd yn Nhremadoc, Cymru. Astudiodd archeoleg yn Ngholeg Yr Iesu, Rhydychen. Ar ôl gorffen yr efrydiau israddedig aeth i Arabia i weithio fel archeolegydd ac astudio Arabeg.
Ers 1914 roedd yn gweithio gyda'r British Military Intelligence yng Nghairo, yr Aifft. Ym 1916 cafodd ei yrru i Arabia i wneud adroddiad am fudiad cenedlaethol yr Arabiaid. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd e'n rhan o luoedd afreolaidd yr Arabiaid o dan Emir Feisal, yn brwydro yn erbyn y Twrciaid ac yn argyhoeddi'r Arabiaid i gydweithio â Phrydain. Roedd Lawrence yno pan gipiwyd trefi Aqaba ym 1917 a Damascus ym 1918.
Ar ôl dychwelyd i Brydain gweithiodd gyda Lluoedd Prydain am ychydig, ac yna fel awdur.
Cafodd Lawrence ei ladd mewn damwain traffig yn Clouds Hill, Dorset, Lloegr.