Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Enoch Powell - Wicipedia

Enoch Powell

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Aelod Seneddol ac iddo gysylltiadau teuluol Cymreig, John Enoch Powell (16 Mehefin 1912 - 8 Chwefror 1998) a daeth yn un o wleidyddion mwyaf dadleuol ei oes.

Taflen Cynnwys

[golygu] Gyrfa gynnar

Yn ddyn hynod alluog a deallus, erbyn 1945, ac yntau heb gyrraedd ei 35 oed, yr oedd esioes wedi bod yn Athro Groeg ym Mhrifysgol Sydney, Awstralia, ac yn frigadydd ym myddin Prydain yn yr India wedi iddo ymuno â'r fyddin fel preifat yn 1939. Yr oedd yn ieithydd penigamp, gan feistroli'r Almaeneg a'r Eidaleg, yn ogystal ag ieithoedd y Clasuron a'r Beibl. Yn ddiddorol iawn, o gofio iddo fod yn enwog yn nes ymlaen am wrthwynebu'r presenoldeb Asiaidd ym Mhrydain, pan oedd yn yr India fe ddaeth yn rhugl yn yr iaith Wrdw, gan ei defnyddio bob dydd yno, ac yn achlysurol wedyn yn ei etholaeth yn Wolverhampton. (Yn wir, fe honnodd Powell iddo ddefnyddio pob un o'r chwe iaith yr oedd yn rhugl ynddynt wrth ganfasio yn y dref yn ystod Etholiad Cyffredinol 1950).Yr oedd ganddo rywfaint o grap ar y Gymraeg, ac yn 1942 cydolygodd gyda Stephen J. Williams gyfrol o gyfreithiau Hywel Dda o'r llawysgrif Llyfr Blegywryd (Llyfr Blegywryd: Caerdydd, 1942). Fe wnaeth o leiaf un cyfweliad yn Gymraeg ar y teledu, er iddo ddweud ar y pryd ei fod yn fwy cyffyrddus yn darllen yr iaith na'i siarad.

[golygu] Dechrau ei yrfa wleidyddol

Yr oedd ganddo uchelgais dod yn Rhaglaw Prydeinig yr India, ond pan roddwyd y swydd i Louis Mountbatten yn 1945, penderfynodd Powell ddilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth Seneddol. Yr oedd yn ei weld ei hunan yn Dori naturiol, a chanddo barch mawr at sefydliadau traddodiadol Prydeinig fel Eglwys Loegr, Tŷ'r Arglwyddi, a'r Frenhiniaeth. Fel rhan o hyn, ac er gwaethaf ei fagwraeth ddosbarth gweithiol, drefol, fe dreuliodd lawer o'i amser hamdden yn hela llwynogod ar gefn ceffyl.

[golygu] Ei syniadau economaidd

Roedd yn bleidiol iawn i estyn y sector preifat a lleihau rhan y wladwriaeth ym mywyd y wlad, ac mae rhai'n honni hefyd iddo osod seiliau Thatcheriaeth yn bell cyn i Margaret Thatcher ymddangos, yn enwedig ym maes economeg. Roedd e'n un o gefnogwyr cynnar Monetariaeth, sef polisi o osgoi chwyddiant trwy gyfyngu ar faint o arian oedd ar gael. Tocio ar wariant cyhoeddus oedd y prif ddull i wneud hyn, ac fel Margaret Thatcher ar ei ôl, roedd Powell o blaid torri'n ôl ar wasanaethau cyhoeddus er mwyn rheoli chwyddiant. Cymaint oedd ei frwdfrydedd dros yn syniadau hyn nes iddo ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cyllid y Trysorlys yn 1958 gan nad oedd ei gydweinidogion yn rhannu ei sêl fonetaraidd. O ganlyniad i'w frwdfrydedd dros cyfalafiaeth, roedd e'n elyniaethus iawn i bob awgrym o sosialaeth: yn 1968 pan gwynodd Harold Wilson am "feirws Powelliaeth", atebodd Powell yn chwyrn, "Feirws ydw i. Fi yw'r feirws sy'n lladd sosialwyr."

[golygu] Ei frwydr yn erbyn y diwydiant tybaco

Yn 1963, pan oedd yn Weinidog Iechyd yn llywodraeth Harold Macmillan, fe geisiodd lansio ymgrych posteri ar sail y slogan syml: Cigarettes cause lung cancer. Cafodd ei rwystro rhag gwneud gan fod yr awdurdodau hysbysebu yn mynnu nad oedd y cysylltiad rhwng smygu a chancr wedi’i brofi’n iawn eto, ac nid tan ddeugain mlynedd yn nes ymlaen y cafwyd hysbysebu cyhoeddus mor blwmp a phlaen gan y llywodraeth am effeithiau tybaco.

[golygu] Amddiffyn Tŷ'r Arglwyddi

Ar sawl achlysur, fe siaradodd Powell yn Nhŷ'r Cyffredin yn erbyn cynlluniau i ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi. Yn fwyaf nodedig, yn 1969, fe lwyddodd Enoch Powell a'r sosialydd Michael Foot i ddifetha cynlluniau Harold Wilson ac Edward Heath i greu ail siambr wedi'i llenwi'n rhannol â rhai oedd wedi'u hethol yn ddemocrataidd, ond yn bennaf â phobl oedd wedi'u henwebu gan y pleidiau. Dadleuodd Powell y byddai'r fath gorff yn llawn "sbwriel y ddwy Senedd ddiwethaf," ac yn debyg o fod yn gi bach dof i arweinwyr y prif bleidiau. O'i ran ef, roedd Foot am ddiddymu Tŷ'r Arglwyddi'n gyfan gwbl. Er bod y ddau dyn yn gwadu eu bod yn cydweithio ar y mater, rhyngddyn nhw, fe lwyddon nhw i gadw'r mesur diwygio'n sownd yn yn Nhŷ'r Cyffredin nes bod yr amser ar ei gyfer wedi pallu.

[golygu] Cyhuddiadau o hiliaeth

Daeth yn eilun i rai ac yn bennaf casddyn i eraill yn 1968 pan areithiodd yn ei ddinas enedigol, Birmingham, ar bwnc mewnfudo i wledydd Prydain o'r India. Yn ei araith, fe ddywedodd ei fod, "Fel y Rhufeiniwr, yn gweld Afon Tiber yn llifo gyda llawer o waed," pe bai pobl o Asia'n dal i fewnfudo i Brydain i'r un graddau â hyd hynny. Soniwyd am yr araith hon am flynyddoedd wedyn fel ei araith "afonydd gwaed". Yn sgîl yr araith hon, daeth yn darged cyson i brotestwyr oedd yn ei gyhuddo o hiliaeth a hyd yn oed Natsïaeth. Er bod y ddau ddyn yn hen gyfeillion, fe aeth Tony Benn mor bell â honni bod "Y faner sydd wedi'i chodi uwchben Wolverhampton yn dechrau edrych yn debyg i'r faner fuodd yn chwifio uwchben Belsen a Dachäu," (dau o wersylloedd marwolaeth enwoca'r Natsïaid). Gan fod Powell wedi gwirfoddoli i ymladd yn erbyn yr Almaen Natsïaidd, roedd e'n gweld yr ail o'r cyhuddiadau hyn yn sarhaus iawn. O ran y cyhuddiad o hiliaeth, roedd Powell yn mynnu nad oedd ganddo ddim byd yn erbyn Asiaid fel hil neu genedl, ond ei fod yn credu bob presenoldeb cynifer o bobl o ddiwlliant gwahanol ym Mhrydain yn tanseilio hen ffyrdd Prydeinig o fyw. Nid oedd yn credu chwaith y dylai Asiaid gael eu cymathu â'r diwylliant Prydeing gan honni y byddai hynny'n tanseilio eu diwylliant gwerthfawr nhw - diwylliant roedd e wedi dwli arno pan oedd e'n byw yn yr India. Roedd Powell yn gwneud yn fawr o ystadegau'n dangos bod y mewnfudwyr newydd yn cenhedlu mwy o blant na Phrydeinwyr croenwyn, gan beri i Leo Abse, Aelod Seneddol Pontypŵl, honni bod gan Powell ddiddordeb afiach mewn faint o weithiau'r wythnos yr oedd dynion duon yn cael rhyw, a hynny oherwydd ei anscirwydd rhywiol ef ei hunan.

[golygu] Enoch Powell a'r Rhyfel Oer

Trwy gydol ei yrfa yr oedd yn benderfynol o dorri ei gwys ei hunan, ac yr oedd rhai o'i ddaliadau fe'n annisgwyl. Er enghraifft, yn wahanol i'r rhan fwyaf o bobl ar y dde, yr oedd yn gweld Unol Daleithiau America yn fwy o fygythiad i Brydain na'r Undeb Sofietaidd. Fel y dywedodd yn ffraeth iawn unwaith, os oedd y Rwsiaid mor awyddus i gonrco Gorllewin Ewrop, yr oeddynt wedi bod "hynod ddiog ac aflwyddiannus yn y gwaith." Roedd ei syniadau am yr Unol Daleithiau yn deillio o'i brofiad weld yr Americanwyr yn ehangu eu dylanwad yn y Dwyrain Pell wrth i Ymerodraeth Prydain ymddatod. Cymaint oedd ei ddrwgdybiaeth at yr Unol Daleithiau nes iddo ddod i gredu mai asiantiaid cudd America, yn hytrach na Gweriniaethwyr Gwyddelig, a lofruddiodd yr Arglwydd Louis Mountbatten yn 1979. Yn wahanol i lawer ar y dde, roedd e'n wfftio'r syniad y gellid ennill rhyfel niwclear yn Ewrop trwy ddefnyddio arfau niwclear tactegol. Yn ei dyb e, roedd defnyddio arfau niwclear yn sicr o arwain ar ddinistrio holl boblogaeth y Cyfandir, a gwell fyddai i Brydain ddatblygu ei lluoedd confensiynol.

[golygu] Ei genedlaetholdeb Prydeinig

Yn anad dim, cenedlaetholwr Prydeinig mawr oedd e, gan wrthwynebu unrhyw beth a allai beryglu statws ac undod y Deyrnas Unedig, gan gynnwys datganoli grym i Gymru a'r Alban, ac ildio grym i'r Undeb Ewropeaidd. Nid oedd yn syndod, felly, yn 1974, pan adawodd y Blaid Geidwadol, a dod yn Aelod Seneddol dros Blaid Unoliaethol Wlster yng Ngogledd Iwerddon. Roedd yn credu'n ddi-droi'n ôl bod rhaid i Ogledd Iwerddon aros yn rhan o Brydain, a chyhuddodd Margaret Thatcher o frad am drafod dyfodol y dalaith gyda llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon. Ond hyd yn oed yng Ngogledd Iwerddon, nid oedd e'n cydymffurfio â disgwyliadau pobl. Byddai'n dadlau'r gryf yn erbyn awydd rhai Unoliaethwyr am reoli'r dalaith ei hunan, gan gredu y dylai Gogledd Iwerddon gael ei llywodraethu gan San Steffan fel unrhyw ran arall o'r Deyrnas. At hynny, efe oedd Aelod Seneddol cyntaf erioed Plaid Unoliaethol Wlster i wrthod ymuno â'r Urdd Oren.

[golygu] Ei farwolaeth

Er ei fod mor bell i'r asgell-dde, enillodd barch gan rai ar y chwith, a bu'n gyfeillgar gyda'r sosialydd mawr Tony Benn. Wedi iddo farw y 8 Chwefror, 1998, fe ddaeth pobl o bob rhan o'r sbectrwm wleidyddol i'w angladd.

Ieithoedd eraill
Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com