Dadl cartwnau Muhammad Jyllands-Posten
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dechreuodd dadl cartwnau Muhammad Jyllands-Posten yn dilyn cyhoeddiad deuddeg o gartwnau golygyddol, y rhan fwyaf ohonynt yn portreadu'r proffwyd Islamaidd Muhammad, yn y papur newydd Daneg Jyllands-Posten ar 30 Medi, 2005. Esboniodd y papur newydd taw cyfraniad i'r ddadl ynglŷn â beirniadaeth o Islam ac hunan-sensoriaeth oedd y cyhoeddiad. Fel ymateb, cynnalodd mudiadau Mwslemaidd Danaidd protestiadau cyhoeddus a chodon nhw gwybodaeth ynglŷn â chyhoeddiad Jyllands-Posten. Wrth i'r ddadl mwyhau, ailargraffwyd enghreifftiau o'r cartwnau mewn papurau newydd mewn dros 50 o wledydd eraill, a arweiniodd at brotestiadau treisgar yn ogystal â phrotestiadau heddychol, yn cynnwys terfysgoedd (yn enwedig ym myd Islam).
Disgrifir beirniaid y cartwnau yn Islamoffobig a dadlir maent yn gableddus i Fwslemiaid, yn bwriadu bychanu lleiafrif Danaidd, mewn cyd-destun o gynnydd baetio mewnfudwyr yn Nenmarc, ac yn amlygiad o anwybodaeth amdano hanes imperialaeth Orllewinol, o wladychiaeth i'r gwrthdaro cyfredol yn y Dwyrain Canol.[1]
Dywedir cefnogwyr y cartwnau taw darlunio pwnc pwysig o fewn cyfnod o derfysgaeth eithafol Islamaidd ydynt ac mae'u cyhoeddiad yn ymarfer deg o ryddid barn. Maent hefyd yn dweud cânt cartwnau tebyg am grefyddau eraill eu hargraffu'n aml, ac felly ni chânt dilynwyr Islam eu gwahaniaethu yn eu herbyn.[2]
Disgrifiodd y Brif Weinidog Danaidd, Anders Fogh Rasmussen, y ddadl fel argyfwng rhyngwladol gwaethaf Denmarc ers yr Ail Ryfel Byd.[3]
[golygu] Digwyddiadau tebyg
- Jerry Springer - The Opera (sioe gerdd, 2005, Prydain)
- The Satanic Verses (nofel, 1988, byd-eang)
- Monty Python's Life of Brian (ffilm, 1979, UDA ac Ewrop)
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg)"Islam and globanalisation", Al Ahram, 23 Mawrth, 2006.
- ↑ (Saesneg)"The limits to free speech - Cartoon wars", The Economist, 9 Chwefror, 2006.
- ↑ (Saesneg)"70,000 gather for violent Pakistan cartoons protest", Times Online, 15 Chwefror, 2006.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Daneg) Hafan Jyllands-Posten
- (Daneg) Y dudalen Jyllands-Posten sy'n cynnwys cartwnau Muhammad
- (Saesneg) Lluniau mawrion o'r cartwnau
- Gwefannau newyddion
- (Saesneg) BBC News – Q&A Depicting the Prophet Muhammad
- (Saesneg) The Guardian special reports: cartoon protests
- BBC Newyddion – Mohamed: Gwahardd golygydd (erthygl am olygydd papur myfyrwyr Prifsgol Caerdydd, gair rhydd, yn cael ei wahardd ar ôl cyhoeddi'r cartwnau)
- BBC Newyddion – Cartwn Mohamed: Eglwys yn ymddiheuro (erthygl am ymddiheuriad ac ymddiswyddiad golygydd Y Llan ar ôl cyhoeddi'r cartwnau)
- Barnau