Cordog
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cordogion | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | |||||||
|
|||||||
Is-ffyla | |||||||
Urochordata (chwistrellau môr) |
Anifail sy'n perthyn i'r ffylwm Chordata yw cordog (hefyd: cordat). Mae gan gordogion notocord, llinyn nerfol cefnol, agennau ffaryngol a chynffon sy'n ymestyn tu hwnt i'r anws.
Mae cordogion yn cynnwys y fertebratau (pysgod, amffibiaid, ymlusgiaid, adar a mamolion) a dau grŵp o infertebratau (chwistrellau môr a physgod pengoll). Mae safngrynion yn cael eu dosbarthu weithiau fel fertebratau, weithiau mewn grŵp gwahanol.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.