Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Bangor - Wicipedia

Bangor

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Bangor
Gwynedd
Image:CymruGwynedd.png
Image:Smotyn_Coch.gif
Gweler Bangor (gwahaniaethu) am leoedd eraill a elwir yn Fangor

Mae Bangor yn ddinas fechan yng Ngwynedd. Mae ganddi boblogaeth o dua 15,000. Mae Prifysgol Cymru, Bangor ac Eglwys gadeiriol Bangor yn y ddinas.

Taflen Cynnwys

[golygu] Daearyddiaeth

Mae rhannau hynaf Bangor yn gorwedd yn nyffryn Afon Adda, sy'n wastadedd cyfyng rhwng dwy res o fryniau a red o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae'r dyffryn yn agored i'r môr yn y dwyrain ar y bae bychan mewn braich agored o'r Afon Menai. Uwchlaw'r eglwys gadeiriol mae'r Stryd Fawr hir, gul, tra bod prif adeiladau'r coleg yn domineiddio'r bryn i'r gogledd. I'r de o'r ddinas mae bryn coediog syrth Mynydd Bangor yn codi i 300 troedfedd. I'r gorllewin rhed Ffordd Gaernarfon allan o'r ddinas dan y bont reilffordd ar hyd dyffryn Afon Adda; yma ceir Ysbyty Gwynedd, nifer o stadau tai a datblygiadau siopio newydd yn cynnwys archfarchnadoedd mawr.

Rhwng Bangor ac Ynys Môn, mae dwy bont: Pont Y Borth a Phont Britannia. Mae Pont Britannia yn fawr, gyda dau lefel, un gyda'r ffordd ceir, arall gyda'r rheilffordd. Ond mae Pont y Borth yn gul, a does dim caniatâd pasio arno, ac eithrio beic gan feic.

[golygu] Hanes

Eglwys gadeiriol Bangor
Ehangwch
Eglwys gadeiriol Bangor

Yn ôl traddodiad sefydlodd Deiniol Sant fynachlog (clas) ar lannau Afon Adda yn y 6ed ganrif. Mae enw'r dref yn dod o'r gair bangor, sef "clawdd plethiedig" neu'r tir a amgeir ganddo (llan). Cafodd Deiniol ei gysegru'n esgob cyntaf Bangor gan Dyfrig Sant (Dubricius).

Ymddengys fod y fynachlog a'r hen eglwys gadeiriol wedi parhau hyd 1071 pan y'i llosgwyd gan y Normaniaid. Ailadeiladwyd yr eglwys gadeiriol tua 1102 dan nawdd Gruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd, ond iddi gael ei dinistrio unwaith yn rhagor gan luoedd y brenin John o Loegr yn 1210 pan ymosododd ar Wynedd. Claddwyd Gruffudd ap Cynan a'i ŵyr Owain Gwynedd yn y gadeirlan. Fe'i adeiladwyd o'r newydd bron yn y 13eg ganrif. Sefydlwyd mynachlog fymryn i'r gogledd o'r hen dref gan Urdd y Dominiciaid; dyma safle Ysgol Ffriars heddiw.

Ymwelodd Gerallt Gymro â Bangor yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Yn raddol tyfodd tref fechan o gwmpas yr eglwys gadeiriol ond nid oedd yn llawer mwy na phentref tan ddiwedd y 18fed ganrif pan agorwyd chwareli llechi Penrhyn ac adeiladwyd porthfa newydd yn Abercegin, fymryn i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas. Gydag agoriad ffordd newydd Thomas Telford (yr A5 heddiw) ac wedyn Pont y Borth yn 1826 daeth Bangor yn ganolfan cludiant o bwys a datblygodd yn gyflym. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn 1848. Yn 1883 rhoddwyd siartr bwrdeistref i'r ddinas ac yn 1885 adnabuwyd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru â siartr brifysgol.

Gwelodd Bangor ddatblygiadau mawr yn yr ugeinfed ganrif gyda nifer o dai yn cael eu codi ar ymyl y ddinas, yn arbennig ar y bryn lle saif y coleg (Bangor Uchaf) ac ar gyrion y dref ym Maesgeirchen.

[golygu] Y Pier

Pier y Garth o Fiwmaris
Ehangwch
Pier y Garth o Fiwmaris

Mae gan Fangor y pier ail hiraf yng Nghymru (y nawfed hiraf yng ngwledydd Prydain), sy'n ymestyn 1,500 troedfedd (472 medr) i'r Afon Menai. Fe'i lleolir tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas ei hun, yn ymyl Y Garth, sy'n rhoi ei enw iddo'n swyddogol er mai fel Pier Bangor y mae'n cael ei adnabod gan bawb bron. Bu bron iddo gael ei ddymchwel yn 1974 oherwydd ei gyflwr ar y pryd. Ond gwrthwynebwyd y cynllun gan bobl leol ac erbyn hyn mae'r pier wedi cael ei drwsio (rhwng 1982 a 1988) ac yn adeilad Gradd 2.

[golygu] Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ym 1890, 1902, 1915, 1931 a 1971. Am wybodaeth bellach gweler:

[golygu] Gefeilldref

[golygu] Cysylltiadau allanol


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.


Trefi a phentrefi Gwynedd

Abermaw | Y Bala | Bangor | Bethesda | Blaenau Ffestiniog | Caernarfon | Cricieth | Dolgellau | Ffestiniog | Harlech | Llanberis | Porthmadog | Pwllheli | Tywyn


 
Dinasoedd yng Nghymru
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Tyddewi


Crefydd | Cristnogaeth | Esgobaethau Anglicanaidd Cymru
... Image:Arfbais_esgobaeth_Bangor.png Image:Arfbais_esgobaeth_Llandaf.png Image:Arfbais_esgobaeth_Llanelwy.png ... Image:Arfbais_esgobaeth_Tyddewi.png
Abertawe ac
Aberhonddu
Bangor Llandaf Llanelwy Mynwy Tyddewi
Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com