Gruffudd ap Cynan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Gruffudd ap Cynan (tua 1055 - 1137), yn frenin Gwynedd o 1081 hyd ei farwolaeth.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Cefndir
Mae llawer o'r wybodaeth am Gruffudd yn dod o Hanes Gruffudd ap Cynan, bywgraffiad a ysgrifennwyd tua 1160 efallai, yn ystod teyrnasiad ei fab Owain Gwynedd. Ganwyd Gruffudd yn Nulyn a'i fagu yn Swords ger Dulyn. Yr oedd yn fab i Cynan ap Iago, oedd mae'n debyg a rhywfaint o hawl i deyrnas Gwynedd. Roedd ei fam Ragnell yn ferch i Olaf Arnaid, brenin Daniaid Dulyn. Yn ystod ei ymdrechion i ennill rheolaeth dros Wynedd cafodd Gruffudd lawer o gymorth o Iwerddon.
[golygu] Trechu Trahaearn
Glaniodd Gruffudd ar Ynys Môn yn 1075 gyda byddin o Iwerddon, a chyda chymorth y Norman Robert o Ruddlan llwyddodd i orchfygu Trahaearn ap Caradog. Fodd bynnag bu cweryl rhwng Gwyddelod Gruffudd a'r Cymry lleol yn Llŷn a bu gwrthryfel yno. Achubodd Trahaearn y cyfle i wrth-ymosod, a gorchfygodd Gruffudd ym mrwydr Bron yr Erw yr un flwyddyn a'i orfodi i ffoi i Iwerddon. Yn 1081 dychwelodd i Gymru gan lanio gerllaw Tyddewi a gwnaeth gynghrair gyda Rhys ap Tewdwr tywysog Deheubarth. Gyda'i gilydd enillasant fuddugoliaeth dros Trahaearn a'i gynghreiriaid ym mrwydr Mynydd Carn.
[golygu] Carchar
Yr oedd y Normaniaid yn awr yn pwyso ar Wynedd, a chymerwyd Gruffudd yn garcharor, trwy ystryw meddai ei fywgraffydd, gan Hugh d'Avranches, Iarll Caer a'i garcharu yng nghastell Caer.
Erbyn 1094 yr oedd Gruffudd yn rhydd. Dywed ei fywgraffiad ei fod mewn gefynnau ym marchnad Caer pan ddaeth Cynwrig Hir ar ymweliad a'r ddinas a'i weld. Gwelodd Cynwrig ei gyfle pan oedd y bwrgeisiaid yn bwyta a chododd Gruffudd ar ei ysgwyddau a'i gario o'r ddinas.
[golygu] Trechu'r Normaniaid
Ymosododd Gruffudd ar gestyll y Normaniaid, ac yn 1095 ymosododd William II o Loegr ar Wynedd, ond bu raid iddo ddychwelyd heb lwyddo i ddal Gruffudd. Yn 1088 ymunodd Iarll Caer gyda Hugh arall, Iarll Amwythig i geisio adennill ei diroedd yng Ngwynedd. Enciliodd Gruffudd i Fôn, ond yna bu raid iddo ffoi i Iwerddon pan gafodd y llynges yr oedd wedi ei chyflogi gan Ddaniaid Iwerddon well cynnig gan y Normaniaid a throi yn ei erbyn. Newidiwyd y sefyllfa pan gyrhaeddodd llynges dan arweiniad Brenin Norwy, Magnus III, a ymosododd ar y Normaniaid a lladd Hugh o Amwythig ger rhan ddwyreiniol Afon Menai. Gadawodd y Normaniad yr ynys, a'r flwyddyn ganlynol dychwelodd Gruffudd i gymeryd meddiant.
[golygu] Adfer Gwynedd
Gyda marwolaeth yr Iarll Hugh o Gaer yn 1101 gallai Gruffudd sefydlu ei afael ar Wynedd. Erbyn 1114 yr oedd yn ddigon nerthol i beri i'r brenin Harri I ymosod ar Wynedd gyda thair byddin, un yn cael ei harwain gan Alexander I, brenin yr Alban. Bu raid i Gruffudd ymostwng i'r brenin a thalu dirwy, ond ni chollodd ddim o'i diroedd.Erbyn tua 1118 yr oedd Gruffudd yn rhy hen i arwain mewn rhyfel ei hun, ond gallodd ei feibion Cadwallon ap Gruffudd, Owain Gwynedd ac yn ddiweddarach Cadwaladr ap Gruffudd, ymestyn ffiniau Gwynedd ymhell i'r dwyrain. Yn 1136 enillodd Owain a Chadwaladr gyda Gruffydd ap Rhys tywysog Deheubarth fuddugoliaeth fawr dros y Normaniaid ym mrwydr Crug Mawr, ger Aberteifi, a meddiannu Ceredigion.
[golygu] Y beirdd
Meilyr Brydydd oedd pencerdd llys Gruffudd ap Cynan. Canodd farwnad nodedig iddo.
[golygu] Plant Gruffudd ap Cynan
- Cadwallon ap Gruffudd (m. 1132)
- Owain Gwynedd, gŵr (1) Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn, (2) Cristin ferch Goronwy ab Owain
- Cadwaladr ap Gruffudd, gŵr Alice de Clare, ferch Richard Fitz Gilbert de Clare
- Susanna, gwraig Madog ap Maredudd, tywysog Powys
- Gwenllian, gwraig Gruffudd ap Rhys, tywysog Deheubarth
[golygu] Llyfryddiaeth
- V. Eirwen Davies, Gruffudd ap Cynan (Cyfres Ddwyieithog Gŵyl Ddewi, Caerdydd, 1959)
[golygu] Gweler hefyd
O'i flaen : Trahaearn ap Caradog |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Owain Gwynedd |