Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Bethesda - Wicipedia

Bethesda

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.


Bethesda
Gwynedd
Image:CymruGwynedd.png
Image:Smotyn_Coch.gif

Mae Bethesda yn bentref yng Ngwynedd, yn Nyffryn Ogwen, a enwyd ar ôl Capel Bethesda. Y mae ei thrigolion yn aml yn cyfeirio ati fel Pesda.


Taflen Cynnwys

[golygu] Hanes

Bu pobl yn byw yn Nyffryn Ogwen am ganrifoedd cyn i Fethesda ei hun ddyfod, gyda plwyf Llanllechid yn un o'r mannau mwyaf poblog. Ni dyfodd yr ardal nes agor Chwarel Y Penrhyn yn yr 18fed ganrif, gyda theulu Warburton yn berchen arni. Hyd heddiw, hi yw'r chwarel mwyaf yn y byd a wnaed heb beiriannau, ac yn ei hanterth cyflogai tua 5,000 o weithwyr, ac allforiai llechi o amgylch y byd.

Er y bu sawl streic yn y chwarel yn yr 1880au a'r 1890au, mae'r pentref yn enwog am Y Streic Fawr a fu rhwng 1900-3 wrth i weithwyr cael eu cau allan o'r chwarel wedi ffrae am gyflogau. Ym 1901 gadawyd unrhyw un a hoffai weithio ddychwelyd, gan greu rhwyg chwerw yn y pentref rhwng y streicwyr a'r 'cynffonwyr'. Er y daeth y streic i ben ym 1903 ni adfywiodd y pentref, wrth i'r diwydiant llechi ddirywio ac wrth i tua hanner ei phoblogaeth alltudo.

[golygu] Pobl

Yn ôl cyfrifiad 2001 yr oedd 4,327 o bobl yn byw yn yng nghymuned Bethesda (sy'n cynnwys pentref Rachub ac ardal Gerlan), gyda 77.0% ohonynt yn medru'r Gymraeg. Ym 1991 roedd y ffigwr hwn yn uwch, gyda oddeutu 80% o'r boblogaeth yn ei medru. Mae'r boblogaeth a'r canran sy'n medru'r Gymraeg wedi dirywio dros y ganrif ddiwethaf - ym 1901, yn ystod adeg y Streic Fawr, roedd tua deng mil o bobl yn byw yn yr ardal, gyda 99% ohonynt yn siarad Cymraeg, sef y ffigwr uchaf yng Nghymru ar y pryd.

Ffugenw pobl Bethesda yw'r How Gets. Mae hyn yn deillio o'r ystydeb bod pobl Bethesda â Saesneg wael, a byddent wastad yn gofyn i deithwyr di-Gymraeg "How get you here?". Yn ddiweddarach mae gan ei phobl enw am fod â acen "ymosodol" a chaletach na gweddill y cyffiniau.

Heddiw, mae gan bobl Bethesda ymwybyddiaeth gryf am hanes eu pentref, yn enwedig o'r Streic Fawr. Bydd yr enw 'Penrhyn' (yn cyfeirio at deulu Penrhyn) dal yn corddi'r trigolion, a hyd yn oed canrif wedi'r Streic gwrthoda llawer ymweld â hen gartref y teulu hwnnw yng Nghastell Penrhyn.

[golygu] Gwaith

Hyd heddiw Chwarel Y Penrhyn yw un o brif cyflogwyr y pentref, gyda tua 300 o weithwyr. Y mae ffatri Austin Taylor's hefyd yn gyflowr pwysig. Serch hyn, nid oes fawr o gyfleon i bobl ifanc yn y pentref, a bydd nifer yn gadael am lefydd fel Caerdydd a Manceinion. Y mae llawer o'r boblogaeth yn gorfod comiwtio i weithio, gyda Bangor yn fan poblogaidd iddynt.

[golygu] O Ddydd I Ddydd

Cymraeg yw prif iaith y pentref, a fe'i gwelir a'i chlywir ymhobman. Mae Bethesda yn enwog am ddau beth yn benodol, sef y nifer o dafarndai yno a'r nifer o gapeli. Y mae gan gymuned Bethesda wyth o dafarndai (chwech ohonynt yn y Stryd Fawr), a mae tri lle arall lle y gellid yfed. Yn wahanol i'r arfer, noson prysuraf Bethesda yw'r nos Sul. Mae nifer rhyfeddol o lefydd yn gwerthu prydau parod, a mae'r Mabinogion yn siop sglodion â enw da dros ardal eang. Mae hefyd tair caffi yn y stryd fawr.

Mae tair ysgol fechan yn y gymuned, ac un ysgol uwchradd sef Ysgol Dyffryn Ogwen, sydd â thua 400 o ddisgyblion a 30 o athrawon.

Llais Ogwan yw'r papur bro lleol, ac mae'n gwerthu tua 2000 o gopiau pob mis.

[golygu] Enwogion

Caradog Prichard - nofelydd a bardd, a enillodd y goron dair gwaith yn olynol

Gruff Rhys - prif leisydd gyda Ffa Coffi Pawb, cyn symud ymlaen at y Super Furry Animals. Mae hefyd wedi rhyddau albwm ei hun.

John Ogwen - Un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru

Dafydd Orwig - Cynghorydd Plaid Cymru fu'n frwd dros addysg Gymraeg



Hefyd, mae yna un ar hugain o drefi o'r enw "Bethesda" yn yr UDA a Chanada; y mwyaf enwog ohonynt yw Bethesda, Maryland.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.


Trefi a phentrefi Gwynedd

Abermaw | Y Bala | Bangor | Bethesda | Blaenau Ffestiniog | Caernarfon | Cricieth | Dolgellau | Ffestiniog | Harlech | Llanberis | Porthmadog | Pwllheli | Tywyn

Ieithoedd eraill
Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com