Maghreb
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
(Gweler hefyd : Gogledd Affrica a Moroco)
- Y Maghreb yw tair gwlad ogledd-orllewin Affrica; Moroco, Algeria a Tunisia.
- Y Maghreb Mawr yw tair gwlad y Maghreb gyda Libia a Mauritania yn ychwannegol. Yn 1989 fe wnaeth y gwledydd hyn greu undeb economaidd, yr U.M.A. (Undeb Maghreb Arabaidd).
- Mae'r gair Maghreb yn dod o'r Arabeg مغرب maghrib = "machlud haul". Dyma beth fydd yr Arabiaid yn galw gorllewin pell y byd Arab, gan fod yr haul yn machlud yn y cyfeiriad hwn. Roedd y Maghreb gynt yn cynnwys Andalucía yn Sbaen hefyd. Roedd yr Arabiaid yn ystyried Cordoba a'r afon Guadalquivir fel eu gwlad helaeth.
- Enw Moroco yn Arabeg yw Al-Maghrib. Yr enw llawn yw Al-Mamlaca al-Maghribïa "Teyrnas Machlud yr Haul".