Trochydd Gyddfgoch
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Trochydd Gyddfgoch | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Gavia stellata Pontopiddan], 1763 |
Y Trochydd Gyddfgoch yw'r lleiaf o deulu'r Trochwyr, tua 55-67 cm o hyd a 91-110 cm ar draws yr adenydd.
Mae'n nythu ar draws gogledd Ewrop, gogledd Asia a rhan ogleddol Canada. Fel rheol mae'n tueddu i nythu ar lynnau llai na'r trochwyr eraill, ac yn y tymor nythu mae ei alwadau annaearol yn nodwedd o'r ardaloedd lle mae'n magu. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a gellir eu gweld ar yr arfordir neu ar lynnoedd mawr.
Mae'r llun yn dangos Trochydd Gyddfoch yn ei blu haf, gyda gwddw coch , pen llwyd, cefn tywyll ac yn wyn oddi tano. Yn y gaeaf mae'n wyn ar y gwddw a llawer llai o liw arno. Gellir ei wahaniaethu oddi wrth y trochyddion eraill trwy fod y pig yn deneuach ac yn pwyntio ar i fyny rhyw fymryn, a bod y gwyn ar y gwddw yn ymestyn ymhellach i'r ochrau.
Ar bysgod y mae'r Trochydd Gyddfgoch yn byw, ac mae'n medru plymio hyd at 8 medr o ddyfnder i'w dal. Hwn yw'r unig drochydd sy'n medru codi i'r awyr yn uniongyrchol o'r tir; mae'n rhaid i'r lleill redeg ar hyd y dŵr.
Nid yw'r Trochydd Gyddfgoch yn nythu yng Nghymru ond mae'n aderyn pur gyffredin ar yr arfordir yn ystod y gaeaf; y mwyaf cyffredin o'r trochyddion fel rheol. Mae rhai cannoedd yn gaeafu yn Mae Ceredigion a chryn nifer hefyd o gwmpas rhan ddwyreiniol Afon Menai.