Beijing
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Talfyriad: 京 (pinyin: Jīng) | |
Y Ddinas Gwaharddedig |
|
Gwraidd yr Enw | 北 běi - gogledd 京 jīng - prif ddinas felly: prif ddinas gogleddol |
Maint - Cyfanswm - % o'r cenhedl |
Rhenc 29fed 16,808 km² 0.175% |
Poblogaeth - Cyfanswm (2001) - % o'r cenhedl - Dwysedd |
Rhenc 26fed 13,820,000 1.08% 822/km² |
GDP yn RMB¥ - Cyfanswm (2002) - % o'r cenhedl - per capita |
Rhenc 15fed 313.0 billiwn ¥ 3.06% 22600 ¥ |
Math o lywodraeth | Bwrdeistref |
Rhanbarthau safon sirol | 18 |
Rhanbarthau safon trefi | 318 |
Côd Post | 100000 - 102600 |
Côd Ffôn | 10 |
Rhagddodiad plât rhifau | 京A, C, E, F, H |
京B (tacsïau) | |
京G (maestrefi pell) | |
京O (heddlu ac awdurdodau) | |
ISO 3166-2 | CN-11 |
Prif ddinas y Gweriniaeth Pobl Tsieina a dinas ail fwyaf y wlad gyda 13,820,000 o drigolion yw Beijing (北京, "prif ddinas gogleddol").
[golygu] Enw'r ddinas
Ystyr Beijing yw "prif ddinas gogleddol" (cymharwch Nanjing, "y prif ddinas deheuol", a Tonkin a Tokyo, mae'r ddau yn ystyro "y prif ddinas ddwyrainol"). Weithiau mae Beijing yn cael ei alw'n Peking -- mae'r enw hon yn dod drwy cenhadwyr Ffrengig pedwar cant mlynedd yn ôl, ac mae'n dangos newidiad mewn sain yn ystod y Brenhinllin Qing.
Yn Tsieina mae'r ddinas wedi newid ei henw llawer gwaith. Rhwng 1928 a 1949, Beiping (Heddwch gogleddol) oedd enw'r ddinas, achos roedd y llywodraeth Cenedlaetholwyr (Kuomintang) yn rheoli'r gwlad o Nanjing, a roedden nhw'n eisiau dangos fod Beijing ddim yn brif ddinas y wlad. Pan oedd y Siapaneaid yn rheoli'r gwlad bwped yn ngogledd Tsieina gyda'r ddinas yn brif ddinas, roedd yr enw yn Beijing unwaith eto, ond yn 1945 newidwyd llywodraeth Gweriniaeth Tsieina yr enw yn ôl i Beiping. Pan enillodd y Plaid Gomiwnyddol y rhyfel gartref yn Hydref 1949 newidwyd yr enw yn ôl i Beijing i ddangos eu bod nhw'n rheoli Tsieina i gyd. Dydi llywodraeth y Weriniaeth Tsieina yn Taiwan ddim wedi newid yr enw yn swyddogol, ac yn y 1950au a 1960au roedd llawer o bobl o Taiwan yn galw y ddinas yn "Beiping". Heddiw mae bron pawb o Taiwan (yn cynnwys y llywodraeth) yn galw'r ddinas yn "Beijing".