Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Renminbi - Wicipedia

Renminbi

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Y renminbi (Tsieinëeg traddodiadol: 人民幣, Tsieinëeg wedi symleiddio: 人民币, yn golygu "arian y bobl") yw arian swyddogol Gweriniaeth Pobl Tsieina. Banc Pobl Tsieina sy'n cyhoeddi'r arian. Y talfyriad swyddogol ISO 4217 amdano yw CNY.

Taflen Cynnwys

[golygu] Unedau'r Renminbi

2 Yuan
Ehangwch
2 Yuan

Uned sylfaenol y renminbi yw'r yuan. Mae yuan fel arfer yn cael ei ysgrifennu â'r arwyddnod 元, ond i rwystro ffugio a chamgymeriadau rhifo caiff ei ysgrifennu yn ffurfiol fel 圆. Caiff yr arwyddnod ei drawslythrennu i'r wyddor Lladin fel Ұ neu ¥. Ambell waith mae enw'r arian, renminbi, yn cael ei ddrysu ag enw'r uned sylfaenol yuan.

Mae un yuan yn cynnwys 10 jiao (角). Mae 1 jiao yn cynnwys 10 fen (分). Cyhoeddir arian papur o wahanol werthoedd, y mwyaf yn werth 100 yuan a'r lleiaf yn werth 1 fen.

Yn Tsieinëeg Mandarin, gelwir yr yuan hefyd yn kuai (块) ar lafar, mewn rhai ardaloedd. Yr un modd gelwir y jiao yn mao (毛) ar lafar.

Yng Ngweriniaeth Pobl Tseina wrth ysgrifennu prisiau mewn siopau fe roddir yr arwyddnod ¥ o flaen y rhif yn aml, yn ogystal â'r arwyddnod 元 wedi'r rhif.

[golygu] Wynebwerthau

Mae'r Renminbi wedi ei rannu i dri uned sylfaenol sef yr yuan, jiao a fen ac iddynt werth cymharol 1/1, 1/10 a 1/100 yn ôl eu trefn.

Peth diddorol i sylw yw bod pob gwerth -- o'r lleiaf, 1 fen, i'r mwyaf, 100 yuan -- ar gael fel arian papur. Erbyn hyn mae'r papurau fen bron yn ddiwerth. Maent yn llai o faint na phapur y gwerthoedd eraill ac nid yw cynllun yr arian papur fen wedi newid er 1953.

[golygu] Papurau banc

  • CNY 100
  • CNY 50
  • CNY 20 (newydd gyda'r 5ed gyfres yn 1999)
  • CNY 10
  • CNY 5
  • CNY 2 (rwan yn diflannu, ond heb eto eu galw yn eu hôl)
  • CNY 1
  • CNY 0.5
  • CNY 0.2
  • CNY 0.1
  • CNY 0.05 (prin iawn)
  • CNY 0.02 (prin)
  • CNY 0.01

[golygu] Darnau arian

  • CNY 1
  • CNY 0.5
  • CNY 0.1
  • CNY 0.05
  • CNY 0.02
  • CNY 0.01

[golygu] 5ed Gyfres

Yn 1999, dechrewyd cyhoeddi cyfres newydd o arian papur a darnau arian y Renminbi, sef argraffiad cyntaf y bumed gyfres. Cyhoeddwyd arian papur a'r wynebwerthoedd canlynol:

  • CNY 100
  • CNY 50
  • CNY 20 (newydd gyda'r gyfres hon)
  • CNY 10
  • CNY 5
  • CNY 1

Hefyd cyhoeddwyd darnau arian newydd:

  • CNY 1
  • CNY 0.5
  • CNY 0.1


Mae'r papurau newydd wedi eu cynllunio i rwystro ffugio. Mae ganddynt ddyfrnodau, maent yn fflwroleuo mewn golau uwchfioled ac mae stribed o fetel ynddynt oll heblaw am y papur ¥1. Mae gan y papur gwerth ¥50 a ¥100 rifau sy'n newid eu lliw wrth edrych arnynt o wahanol onglau. Lle ynghynt y cafwyd amrywiaeth o ddelweddau o ŵr a gwraig mewn gwisg draddodiadol yn perthyn i wahanol ardaloedd o Tseina, delwedd unffurf o Mao Zedong a ymddengis ar bob papur gaiff ei gyhoeddi yn y 5ed gyfres. Y papur diweddaraf i gael ei gyhoeddi yn argraffiad cyntaf y bumed gyfres yw'r papur CNY 1, a gyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2004. Defnyddiwyd nifer o ffyrdd ychwanegol o ddiogelu'r arian papur yn y papur CNY ac fe ail-gyhoeddwyd y papurau eraill a rhagor fyth o nodweddion diogelu ynddynt, gan ddechrau ail-gyhoeddi ar 31 Awst 2005.

Mae'r 4ydd gyfres, a gyhoeddwyd yn 1980 a 1990, o hyd yn arian cyfreithlon. Yn 2000, galwodd Banc Pobl Tsieina hen bapurau'r 3ydd gyfres o'r 1960au a 1970au yn eu hôl.


[golygu] Cyfradd gyfnewid

O 1994 hyd at 21 Gorffennaf 2005 polisi llywodraeth Gweriniaeth Pobl Tseina oedd sefydlogi gwerth cyfnewid y renminbi yn erbyn Doler America – ar raddfa o tua 8.28 renminbi i bob doler America. Yng ngwyneb pwysau gwleidyddol o du UDA cafwyd wared ar y peg â doler America ar 21 Gorffennaf 2005, pan yr adbrisiwyd y renminbi i 8.11 renminbi i bob doler America. Ar yr un pryd cyhoeddodd Banc Pobl Tseina y byddent yn sefydlog gwerth cyfnewid y renminbi yn erbyn basged o arian breiniol nifer o wledydd ac y byddai'r renminbi yn cael ei gyfnewid hyd at derfyn gwahaniaeth o 0.3% yn erbyn y fasged arian breiniol. Yn ôl GPC prif unedau'r fasged arian breiniol yw doler America, yr Euro, yen Japan a won De Korea, a chanran llai o bunt sterling, baht Thailand, rwbl Rwsia, doler Awstralia, doler Canada a doler Singapore.


[golygu] Gwelwch hefyd

  • Doler Hong Kong
  • Doler Newydd Taiwan
Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com