Thomas Edward Ellis
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Thomas Edward Ellis, neu Tom Ellis (16 Chwefror, 1859 - 1899) yn wleidydd radicalaidd o Gymro, a aned yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, Sir Feirionnydd.
Roedd yn fab i Thomas Ellis, ffarmwr o Anghydffurfiwr, a'i wraig Elizabeth. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn y Coleg Newydd, Rhydychen.
Yn 1886 cafodd ei ethol yn aelod seneddol Rhyddfrydol dros Feirion. Erbyn 1894 Tom Ellis oedd Prif Chwip y blaid yn San Steffan.
Gweithiai'n ddiwyd dros addysg Gymraeg (yn arbennig yr ymdrech i greu ac ehangu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor), Datgysylltu'r Eglwys, Diwygio'r Tir ac Ymreolaeth i Gymru (hunanlywodraeth). Chwaraeodd ran flaenllaw ym mudiad Cymru Fydd.
Roedd yn ŵr diwylliedig a ymddiddorai'n fawr yn llenyddiaeth ei wlad (golygodd gyfrol o waith Morgan Llwyd). Cyn ei ethol yn AS ysgrifennai'n gyson i'r wasg yng Nghymru ar bynciau diwylliannol a gwleidyddol, er enghraifft i'r Goleuad, y South Wales Daily News, a'r Carnarvon and Denbigh Herald.
Torrodd ei farwolaeth gynnar a disymwth o deiffoid tra ar wyliau yn yr Aifft yn 1899 yrfa addawol i'w sir a'i wlad. Fe'i claddwyd yng Nghapel Ddwysarn yn ei bentref genedigol.
Roedd yn anwyl iawn gan y werin a mawr fu'r golled ar ei ôl. Roedd pobl yn meddwl bod Cymru wedi colli ei harweinydd disgleiraf. Saif cofgolofn i Twm Ellis yn y Bala, a godwyd yn fuan wedi ei farwolaeth.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Tom Ellis
- T.E. Ellis, Speeches and Addresses (1912)
[golygu] Llyfrau amdano
- T.I. Ellis, Cofiant Tom Ellis, 2 gyfrol (1944, 1948)
- Neville Masterman, The Forerunner: the Dilemmas of Tom Ellis (1972)
- Owain Ll. Owain, Tom Ellis: Y Gwladgarwr (Caernarfon, d.d.=1915)