Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Wicipedia:Pigion - Wicipedia

Wicipedia:Pigion

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Gweler hefyd: Pigion hŷn

Taflen Cynnwys

[golygu] Hedd Wyn

Hedd Wyn

Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (1887-1917). Roedd yn dod o Drawsfynydd, Sir Feirionnydd yng Ngogledd Cymru. Roedd yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ef a enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Cafodd ei ladd ar faes y gad cyn y cadeirio a dyna pam y gelwir yr Eisteddfod honno yn Eisteddfod y Gadair Ddu, er nad oedd y gadair yn ddu yn gwirionedd. Galwon nhw'r cadair yr enw yma oherwydd roddon nhw lluain du arno fe.



[golygu] Petroliwm

Ffynnon olew yng Nghanada
Ehangwch
Ffynnon olew yng Nghanada

Tanwydd ffosil yw petroliwm neu olew crai sy'n cael ei echdynnu o'r ddaear mewn gwledydd ar draws y byd, ond yn enwedig yn y dwyrain canol, yr UDA, Rwsia a Feneswela. Mae'n adnodd anadnewyddadwy a defnyddir i wneud petrol, plastig ayyb. Mae petroliwm yn hylif tew brown tywyll fel arfer, sy'n cynnwys cymysgedd cymhleth o hydrocarbonau fflamadwy. Caiff y petroliwm ei buro i roi amryw o ffracsiynau trwy broses o ddistyllu ffracsiynol.




[golygu] Gwylan

Gwylan

Mae'r wylan yn bwyta pysgod wrth gwrs, ond mae hefyd yn bwyta pob math o gig, wyau adar eraill, hadau a llysiau a hefyd anifeiliaid wedi marw a phob math o fudreddi. Mae'n lladd a bwyta crancod trwy hedfan yn uchel a'u gollwng ar y creigiau fel bod y crancod yn torri'n ddarnau. Yng Nghymru yr ydym yn eu gweld yn dilyn aradr, hyd yn oed filltiroedd i mewn i'r tir mawr, yn casglu mwydon a chynrhon wrth iddynt ddod i'r wyneb.



[golygu] Patagonia

Llyn Espejo, Patagonia

Rhanbarth daearyddol yn Ne America yw Patagonia sy'n ymestyn o Chile ar draws yr Andes i'r Ariannin. Deillia'r enw Patagonia o Batagones, sef enw'r bobl gyntaf i gyrraedd yr ardal rhyw 10,000 o flynyddoedd yn ôl.



[golygu] Plaid Cymru

Triban Plaid Cymru

Wedi'i sefydlu yn 1925, yn bennaf fel mudiad ieithyddol, yn draddodiadol y mae Plaid Cymru wedi bod yn fwyaf cryf yn y Gymru Gymraeg yn y gorllewin a'r gogledd.

Am flynyddoedd lawer gwrthododd y Blaid sefyll mewn etholiadau i Senedd Prydain, ond enillodd ei sedd seneddol gyntaf mewn is-etholiad yn sedd Caerfyrddin ar y 14eg o Orffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans, llywydd y blaid ar y pryd. Methodd gadw'r sedd yn etholiad 1970. Collodd o 3 pleidlais yn Etholiad Cyffredinol gwanwyn 1974 ond fe enillodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol Hydref 1974. Collodd y sedd wedyn yn 1979.



[golygu] Renminbi

2 yuan

Uned gwreiddiol y renminbi yw'r yuan. Mae Yuan yn ysgrifenedig fel arfer fel 元, ond i rhwystro ffugio mae'n ysgrifenedig yn ffurfiol fel 圆. Ambell waith mae'r enw'r arian renminbi yn cael eu ddrysu gyda enw'r uned gwreiddiol yuan. Mae un yuan yn cynnwys 10 jiao (角). Mae 1 jiao yn cynnwys 10 fen (分). Y werth mwyaf o renminbi yw 100 yuan. Y lleiaf yw 1 fen.



[golygu] Y Normaniaid

Castell Penfro

Pobl sydd yn dod o Scandinafia (yn bennaf Llychlynwyr yn dod o Ddenmarc) ac yn byw yng ngogledd Ffrainc a Phrydain oedd y Normaniaid. O achos cwymp Gruffudd ap Llywelyn ym 1063 doedd Cymru ddim yn wlad cryf pan cyraeddodd Gwilym, Brenin Normaniaid Lloegr a sefydliodd ef iarllaethau yng Nghaer, Amwythig a Henffordd.



[golygu] Joseph Haydn

Joseph Haydn

Cyfansoddwr o Awstria oedd Josef Haydn (31 Mawrth, 1732 - 31 Mai, 1809). Roedd yn un o brif gyfansoddwyr y cyfnod clasurol. Treuliodd y rhan helaethaf o'i yrfa fel cerddor llys i'r teulu cyfoethog Eszterhazy. Cafodd ei eni yn Rohrau, yn Awstria ger ffin Hwngari. Roedd yn frawd i Michael Haydn, a oedd hefyd yn gyfansoddwr, ac i Johann Evangelist Haydn, a oedd yn denor.



[golygu] Telyn

Telynores

Offeryn cerdd gyda tannau yw'r Delyn. Mae nifer o'r beirdd yn disgrifio'r delyn yn ei barddoniaeth. Mae'n ymddangos fod y delyn Gymreig yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg â cholofn syth iddi gyda'r seinfwlch wedi ei naddu o un darn o gelynen neu ywen.



[golygu] Morfuwch

Morfuwch gyda llo

Un o famaliaid mawr y dŵr yw'r forfuwch (teulu Trichechidae, rhywogaeth Trichechus). Mae'r Trichechidae yn wahanol i'r Dugongidae o ran siâp y penglog a'r gynffon. Mae cynffon y forfuwch ar ffurf rhwyf; cynffon fforchog sydd gan y dwgong. Llysysydd yw'r forfuwch, yn treulio llawer o'i hamser yn pori mewn dyfroedd beision.


[golygu] Afon Tafwys

Afon Tafwys yn Westminster edrych tua'r de

Afon yn ne Lloegr sydd yn llifo trwy Lundain i Fôr y Gogledd yw Afon Tafwys. Tardd yr afon ger pentref Kemble yn ardal y Cotswolds. Yna llifa'r afon am 346km (215 milltir) trwy Rydychen, Reading, Maidenhead, Eton, Windsor a Llundain cyn cyrraedd Môr y Gogledd. Ystyrir bod yr afon yn aberu'n derfynol ger cefnen dywod y Nore.



[golygu] Gŵydd Wyllt

Gŵydd Wyllt

Mae'r Ŵydd wyllt (Anser anser) yn un o'r gwyddau mwyaf cyffredin. Ceir yr ŵydd yma yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop ac eithrio'r de-orllewin, a thrwy Asia cyn belled â China. Mae'n magu ei chywion ar dir gwlyb megis ar gorsdir, ar rostir neu'n agos at lyn. Mae'n ŵydd fawr, 74-84 cm o hyd a 149-168 cm ar draws yr adenydd. Mae'r plu yn llwyd. Gellir adnabod y rhywogaeth yma o blith y "gwyddau llwydion" eraill trwy fod ei phig yn binc (yn y ffurf Asiaidd) neu'n binc-oren (yn y ffurf Ewropeaidd), a'i choesau'n binc. Pan mae'n hedfan mae darnau mawr o liw llawer goleuach ar yr adenydd na sydd gan wyddau eraill.


[golygu] Alotrop

Alotrop

Mae gan rai elfennau yn eu ffurf bur fwy nag un ffurf bosibl i'w hadeiledd cemegol. Gelwir y gwahanol ffurfiau hyn yn alotropau. Mae'r term alotrop yn cynnwys moleciwlau o atomau o un elfen yn unig megis nwyon deuatomig. Un ffurf benodol o'r elfen yw'r ffurf sefydlog o dan unrhyw amodau (e.e. gwasgedd a thymheredd) penodol ond, os yw'r trawsnewidiad o un ffurf i'r llall yn digwydd yn araf gan fod egni actifadu uchel i'r broses, gall sawl ffurf o elfen fodoli ar yr un pryd. Mae gan alotropau o'r un elfen briodweddau gwahanol gan fod y bondio cemegol rhwng yr atomau ynddynt wedi eu trefnu'n wahanol.

Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com