Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Meilyr Brydydd - Wicipedia

Meilyr Brydydd

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Y cynharaf o Feirdd y Tywysogion (fl. 1081-1137), yn enedigol o Drefeilyr, Môn, efallai.

[golygu] Tystiolaeth am y bardd

Roedd Meilyr yn dad i'r bardd Gwalchmai ap Meilyr ac yn daid i'r beirdd Meilyr ap Gwalchmai, Einion ap Gwalchmai ac, yn ôl pob tebyg, i Elidir Sais. Yn ôl ach teuluol a geir yn y testun Hen Lwythau Gwynedd a'r Mars dan y teitl Llwyth Aelan enw gwraig Meilyr Brydydd oedd Tandreg ferch Rhys ap Seisyllt. Yn ôl yr un ddogfen tad Meilyr oedd Mabon ap Iarddur ap Mor ap Tegerin ap Aeddan, ac roedd yr Aeddan hwnnw yn ei dro yn un o ddisgynyddion Cunedda Wledig, sefydlwr teulu brenhinol Gwynedd. Roedd Meilyr yn perthyn i deulu barddol felly; teulu breintiedig ac iddo ach hir ac anrhydeddus.

Ceir llecyn o'r enw Trefeilyr ym mhlwyf Trefdraeth ym Môn, ac er na fedrwn fod yn gwbl sicr mai Meilyr Brydydd oedd deiliad y tir, mae'r ffaith fod yna hefyd Drewalchmai (pentref Gwalchmai heddiw) a bod cofnodion o'r 14eg ganrif yn nodi daliadau tir eraill yn enwau meibion ei fab Gwalchmai ap Meilyr yn awgrymu'n gryf fod Meilyr yn berchen arno ac efallai wedi ei eni yno.

[golygu] Ei gerddi

Pencerdd llys Gruffudd ap Cynan (c.1055-1137)oedd Meilyr Brydydd. Mae un o'r tair cerdd a briodolir i'r bardd yn farwnad i'r tywysog hwnnw. Gellir bod yn bur sicr mai ar achlysur claddu'r tywysog neu'n fuan wedyn y cyfansoddwyd ei farwnad. Ynddi mae Meilyr yn moli dewrder a haelioni'r brenin ac yn disgrifio ei gyrchoedd a'r brwydrau yr ymladdodd. Cawn hefyd ymdeimlad o'r berthynas agos a fu rhwng y bardd a'i noddwr mewn llinellau fel a ganlyn, sy'n dangos y lle anrhydeddus a roddid i'r bardd yn llys Gruffudd, yn Aberffraw. Yfai yng nghwmni'r brenin o gorn yfed euraidd, yn eistedd ar gadair foethus yn ei ymyl:

Yfais gan dëyrn o gyrn eurawg,
Arfodd faedd feiddiad angad weiniawg,
Yn llys Aberffraw, er ffaw ffodiawg,
Bûm o du gwledig yn lleithigawg.

Mae'r ail gerdd yn adnabyddus iawn dan yr enw Marwysgafn Meilyr Brydydd, y farwysgafn gynharaf a gadwyd i ni. Math o gerdd gyffes ydyw. Mae'r bardd yn cyffesu ei bechodau ac yn gofyn maddeuant a lle ym Mharadwys. Ar ddiwedd y gerdd mae'n gofyn i Grist ei gadw rhag tân uffern ac i'r Duw a'i creodd ei adael i orffwys ymhlith beddau'r saint ar Ynys Enlli:

Crist croesddarogan a'm gŵyr, a'm gwarchan,
Rhag uffern affan, wahan westi:
Creawdr a'm crewys a'm cynnwys i
Ymhlith plwyf gwirin gwerin Enlli.

Priodolir testun arall i Feilyr, sef cerdd ddarogan sy'n ymwneud â brwydr Mynydd Carn (1081), ond nid oes sicrwydd mai Meilyr a'i canodd.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • J.E. Caerwyn Williams a Peredur I. Lynch (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion, Cyfres Beirdd y Tywysogion I (Caerdydd, 1994). ISBN 0708311873
  • Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Caernarfon, 1979). Pennod gan Tomos Roberts ar deulu Meilyr Brydydd.
Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com