Ynys Enlli
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ynys ar gwr gogleddol Bae Ceredigion yn gorwedd i'r gorllewin o benrhyn Llŷn, yng Ngwynedd, yw Ynys Enlli (Hen Norseg Bardsey "Ynys Bart"; Saesneg Bardsey Island).
Rhaid croesi'r Swnt, sef y môr rhwng Aberdaron ac Enlli, i fynd i'r ynys.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Sefydlwyd mynachlog arni yn y bumed ganrif gan Gadfan Sant. Dichon bod meudwyon clas Aberdaron yn croesi i'r ynys er mwyn ymneilltuo o'r byd yn yr oesoedd cynnar. Yn ystod yr Oesoedd Canol daeth yr ynys yn gyrchfan pererindota enwog. Roedd tair pererindod i Ynys Enlli yn cyfateb i un i Rufain. Yn ôl traddodiad mae ugain mil o saint wedi eu claddu yno. Yn ddiweddarach disodlwyd yr hen fynachlog Geltaidd gan Abaty'r Santes Fair; mae olion yr hen abaty i'w gweld yno o hyd.
[golygu] Gerallt Gymro
Galwodd Gerallt Gymro yn Nefyn ar ei daith trwy Gymru yn 1188. Dyma ei ddisgrifiad o'r ynys:
- Ond y mae'n gorwedd y tu draw i Lŷn ynys fechan y preswylia ynddi fynaich ffyddlon iawn eu crefydd, a alwant Coelibes ("gwŷr dibriod") neu Colidei ("addolwyr Duw"). Rhyfeddod a berthyn i'r ynys hon, naill ai oherwydd iachusrwydd yr awyr a dderbyn o'i chymdogaeth agos at Iwerddon, neu'n hytrach trwy ryw wyrth a haeddianau'r saint, yw bod y bobl hynaf ynddi yn marw gyntaf, gan mai'n brin iawn y ceir clefydon ynddi; ac yn anaml, heu nid o gwbl, y bydd neb farw yma, onid ar ôl nychdod hir henaint. Enlli, yn Gymraeg, y gelwir yr ynys hon, ac yn yr iaith Saesneg, Bardsey. Ac ynddi, yn ôl traddodiad, y mae cyrff dirifedi saint wedi eu claddu; a thystiant mai yno y gorwedd corff y gwynfydedig Ddaniel, esgob Bangor.
[golygu] Y goleudy
Codwyd goleudy ar bwynt deheuol yr ynys yn 1821. Mae'r goleudy o siâp sgwâr anghyffredin ac yn gant troedfedd o uchder. Fel yn achos Ynys Lawd, Joseph Nelson oedd y pensaer. Costiodd £2,950 i godi. Mae'r goleudy yn otomatig bellach ac yn cael ei redeg o ganolfan gwylio'r glannau Caegybi.
[golygu] Ymddiriedolaeth Ynys Enlli
Mae'r ynys yng ngofal Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Ceir fferm weithredol ar yr ynys o hyd ac mae hi'n boblogaidd gan ymwelwyr sy'n ceisio tawelwch. Ar dywydd braf gellir croesi'r Swnt iddi ar gychod sy'n hwylio o Aberdaron.
[golygu] Afalau Ynys Enlli
Enlli yw cartref gwreiddiol Afalau Ynys Enlli, a elwir weithiau "yr afal mwyaf prin yn y byd". Credir i'r coed afalau gael eu tyfu yno aers y 14eg ganrif gan y mynachod. Goroesoedd rhai enghreifftiau dros y canrifoedd ond ni chafodd ei hadnabod yn rhywogaeth arbennig tan 1998 pan anfonodd Ian Sturrock sampl i'r Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol yn Brogdale, sir Caint. Mae coed Afalau Enlli ar werth mewn sawl man erbyn heddiw.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938), t.126.