Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Latifa Arfaoui - Wicipedia

Latifa Arfaoui

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Mae Latifa Bint Alayah Al Arfaoui (Arabeg: لطيفه بنت عليه العرفاوي)(ganed 14 Chwefror, 1961 yn Manouba, ger Tunis, Tunisia), sy'n adnabyddus dan ei henw llwyfan Latifa (ysgrifen Arabeg لطيفة), yn gantores pop Arabaidd.

Ystyr y gair Latifa yn Arabeg yw "Meddal", "Tyner", "Mwyn" neu "Sensitif". Mae Latifa yn canu yn Arabeg yn bennaf ond mae hi'n rhyddhau fersiynau Ffrangeg o rai o'i chaneuon hefyd o bryd i'w gilydd.

Taflen Cynnwys

[golygu] Ei hanes

Latifa (1999)
Ehangwch
Latifa (1999)

[golygu] Dyddiau ysgol

Brodorion o dalaith Béja oedd ei rieni. Fe'i ganed yn aelod o deulu lluosog; mae ganddi bump brawd a dwy chwaer. Cafodd ei haddysg gynradd yn ysgol gynradd Sidi Omar, yn Manouba, lle arferai ganu yng nghôr yr ysgol. Yn ysgol uwchradd Khaznadar fe'i hyfforddwyd gan ei athro cerddoriaeth Taoufik Thouidi a chanai â'r gantores Oussama Farhat. Yn ogystal â Farhat roedd y cantoresi Tunisiaidd Saber Rebaï a Lotfi Bouchnaq yn gyd-ddisgyblion yn yr un ysgol. Yno hefyd y cyfarfu'r Latifa ifanc â'r cerddor Ali Sriti, a roddai iddi wersi canu a dysgu iddi sut i ganu'r oud (offeryn cerdd Arabaidd tebyg i'r liwt) yn ogystal.

[golygu] Gyrfa gynnar

Yn 1978, cymerodd ran yn y rhaglen "Club des talents" ac enillodd y wobr am y gantores orau. Mewn canlyniad cafodd Latifa ei dewis gan y Weinidogaeth Diwylliant i gynrychioli Tunisia yn y 3edd Ŵyl Ieuenctid Arabaidd yn Irac lle cyflwynodd ganeuon Tunisiaidd traddodiadol a detholiad o waith y gantores Eifftaidd enwog Oum Kalthoum. Ar ôl ei chyfnod yn yr ysgol astudiodd Almaeneg ac yna y celfyddydau yn "l'Institut supérieur de la musique arabe" yn Nghairo.

[golygu] Ei yrfa ddiweddar

Tyfodd Latifa yn gyflym iawn i fwynhau llwyddiant a phoblogrwydd ledled y byd Arabaidd. Ei chân enwocaf Inch'Allah yw'r bumfed mwyaf poblogaidd yn y byd, yn ôl y cylchgrawn Elle.

Yn 1997, ymddangosodd Latifa mewn cyngerdd yn y Royal Albert Hall yn Llundain ac yn 2004, cafodd World Music Award yn Las Vegas am ei chân Ma trohch biid. Wrth dderbyn y wobr yn Las Vegas dywedodd "Bydd fy llawenydd yn gyflawn y dydd y bydd Palesteina fodoli eto ac Irac mewn heddwch." Yn 2005 sefydlodd Latifa gymdeithas elusennol sy'n dwyn ei henw ac mae hi'n rhoi chwarter o'r incwm o'i chyngerddau i'r elusen honno.

[golygu] Disgograffiad (detholiad)

Cloriau rhai o albymau Latifa
Ehangwch
Cloriau rhai o albymau Latifa
  • Mesa Al Jamal (مسا الجمال) "Noswaith da"
  • Waih Waih (ويه ويه) "Ahhh"
  • Meen Yeqool? (مين يقول؟) "Pwy sy'n deud?"
  • Ya Hayati Ana (يا حياتي انا) "Fy Mywyd"
  • Ala La towadi'oni Habeebi ( ألا لا تودعني حبيبي)
  • Ma Laqetsh Methalak - Ma Banamsh Al Lail (ما لقتش مثالك - ما بنامش الليل)
  • Andak Shak (عندك شك) "Pam wyt ti'n amau?"
  • Lotfi wo Latifa (لطفي و لطيفة)
  • Hat Qalbi Wo Rooh (هات قلبي و روح) "Dyro fy nghalon yn ôl a dos"
  • Akthar Min Roohi (اكثر من روحي) "Mwy na fy enaid"
  • Ashan Bahibbak (عشان بحبك) "Achos dwi'n dy garu"
  • Bel Aql Keda (بالعقل كده) "Calla!"
  • Al Donya Bete'dhak Leya (لدنيا بتضحك 1992 ) "Mae'r byd yn gwenu arnaf"
  • Hobbak Hadi (حبك هادي) 1993 ) "Cariad Llugoer"
  • Ana Ma Atniseesh (انا ما اتنسيش) 1994 ) "Dwi'n fythgofiadwy"
  • Wo Akheran (و اخير 1995 "O'r diwedd!"
  • Ma Wahashtaksh? (ما وحشتكش؟ 1996 ) "Wnest di golli fi?"
  • Al Ghinwa ( الغنوه) 1997 "Y Gân"
  • Taloomoni Al Donya ( تلومني الدنيا) 1998 "Mae pawb yn fy meio"
  • Wadeh - Inchallah ( واضح - انشالله) 1999 "Rhydd eto - os mynnith Duw"
  • Sokoot...Ha Ensawwar ( سكوت... ح نصور) (trac sain ffilm)
  • Ma Etrohsh Ba'ed (ما تروحش بعيد) 2003 ) "Paid â mynd i ffwrdd"
  • Les Plus Belles Chansons De Latifa 2004 (detholiad)
  • Hokom Al Ro'ayaan (حكم الرعيان) 2004 ) (trac sain ffilm)
  • Viva Arabia 4 (2005 - 2 drac: "Khallooni" a "Medardarah")

[golygu] Dolenni allanol

Ieithoedd eraill
Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com