Dafydd Elis-Thomas
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Aelod cynulliad (AC) Meirionnydd Nant Conwy a Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Dafydd (Elis) Elis-Thomas, neu'r Arglwydd Elis-Thomas. Mae hefyd yn Lywydd Prifysgol Cymru, Bangor ac yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi.
Ganwyd Elis-Thomas yng Nghaerfyrddin ar 18 Hydref, 1946, yn fab i weinidog yn Yr Eglwys yng Nghymru, a chafodd ei fagu yn Llandysul a Llanrwst.
Fe’i etholwyd yn Aelod Seneddol yn Chwefror 1974, yr un adeg â Dafydd Wigley, pryd y cafodd Plaid Cymru dau, wedyn yn dilyn etholiad mis Hydref, tri, aelod am y tro cyntaf. Ar y cychwyn, ef oedd yr aelod ieuengaf yn Nhŷ’r Cyffredin. Gadawdd Tŷ'r Cyffredin ym 1983, ac ym 1992 fe’i enwebwyd i fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, fel Barwn Elis-Thomas.
Rhwng 1994 a 1999 bu’n Gadeirydd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Ym 1970 priododd Elen M. Williams ac mae ganddynt dri mab. Wedi ysgariad, bu'n bartner i Marjorie Thompson, cadeirydd CND. Ym 1993 priododd Mair Parry Jones.