Dafydd Wigley
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Dafydd Wigley (ganwyd 1 Ebrill 1943) yn wleidydd uchel ei barch yng Nghymru.
[golygu] Cefndir
Fe'i ganwyd yn Derby, Lloegr, ond symudodd y teulu yn ôl i Gymru. Aeth i Brifysgol Manceinion a'i hyfforddi fel cyfrifydd. Roedd yn reolwr cyllid i Hoover cyn ei ethol i'r senedd.
[golygu] Gyrfa wleidyddol
Daeth yn aelod seneddol dros Etholaeth Caernarfon dros Blaid Cymru yn 1974, ac yn aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol dros yr un etholaeth yn 1999 ac ymddeolodd fel aelod seneddol ar ôl Etholiad Cyffredinol 2001. Wnaeth e ddim sefyll am etholiad y Cynulliad chwaith yn 2003 oherwydd afiechyd.
Daeth yn Llywydd Plaid Cymru gyntaf yn 1981, yn dilyn ymddeoliad Gwynfor Evans, ond mi rhaid iddo roi'r gorau i'r llywyddiaeth yn 1984 oherwydd afiechyd ei blant. Daeth yn ôl i'r Llywyddiaeth wedi ymddeoliad Dafydd Elis Thomas yn 1991 a bu yn y swydd tan y flwyddyn 2000.