Cartograffeg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gwyddionaeth gwneud mapiau a globau yw Cartograffeg. Roedd cartograffwyr yn defnyddio pen a phapur i wneud hynny, ond mae llawer o fapiau yn cael eu gwneud yn defnyddio cyfrifiadur gan feddalwedd arbennig: dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD), Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) neu meddalwedd dylunio mapiau arbennig.
[golygu] Hanes
Dylunwyd y map hynaf ger 5000 C.C., ond roedd darganfyddiad geometreg (yn Babylonia ger 2300 C.C.) yn achosi datblygiad mawr. Mae'n bosib weld hynny ar fap Nippur (Babylonia tua 1400-1200 C.C.) a mapiau y cyfnod clasurol o'r Aifft.
Datblygiad pellach roedd yn Gwlad Groeg clasurol. Sgrifennodd Strabo (tua 63 C.C. i 21 O.C.) llyfr "Geographia". Daearegwyr enwog eraill yw Thales o Miletus, Anaximander o Miletus, Aristarchus o Samos (dyn cyntaf a dwedodd fod y daear yn symud o gwmpas yr haul) a Eratosthenes o Cyrene. Mae dylanwad Pythagoras ac Aristotle, hefyd. Cyflwynwyd y system o hydred a lledred sy'n cael defnyddio heddiw.
Cartograffwr enwog y Canol Oesoedd roedd Roger Bacon, ond roedd mwyafrif o fapiau a dylunwyd yn ystod y Canol Oesoedd yn dangos byd crefyddol gyda'r tir yng nghanol disg mawr a'r môr o'i gwmpas. Beth bynnag, ers taith cyntaf Ewropwyr i'r gorllewin a'r diddordeb mewn gwledydd tramor a chodi gwladfeydd roedd yn sbarduno datblygiad techneg cartograffeg.