Mapiau Arolwg Ordnans
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae'r Arolwg Ordnans (Saesneg: Ordnance Survey) yn cyhoeddi mapiau Prydain Fawr i gyd, gydag ehangder o raddfeydd. Ond mae OSNI yn cyhoeddi mapiau Gogledd Iwerddon (gwelwch y cysyllt isod).
Yn ogfystal â'r mapiau ar bapur, mae'n nhw'n cyhoeddi'r graddfeydd mwya poblogaidd ar ei gwefan Get-a-Map, a thrwy wefannau cwmnïau eraill.
[golygu] Enghraifft o Fap Arolwg Ordnans
Mae'r enghraifft hon sydd yn dod trwy'r gwasanaeth Get-a-Map, yn dangos rhan o swydd Caint yn Lloegr, gyda graddfa 1:25000, sef 4 centimeter ar y map i bob cilometer ar y tir (ond gall y maint ar fonitor cyfrifiadurol fod yn wahanol, wrth gwrs). Mae'r raddfa hon yn addas i gerddwyr, ond mae graddfa llai yn well i yrrwyr ceir. TV580982 yw'r lleoliad grid yng nghanol y map.
[golygu] Pethau i'u gweld ar yr enghraifft
- Mae'r map yn defnyddio'r defodau am gyfeiriadau: gogledd i fyny, dwyrain i'r dde, de i lawr, a gorllewin i'r chwith.
- Mae'r llinell goch dew yn dangos ffordd A (prif ffordd), a'r llinell felyngoch dew yn dangos fford B (ffordd llai bwysig). Mae'r ffyrdd bach iawn yn wyn. Byddai traffordd yn cael ei dangos linell las.
- Mae'r llinellau melyngoch main yn dangos yr uchder (metrau), trwy gysylltu lleoedd o'r un uchder. Er enghraifft, mae Warren Hill (D.Dn.) ar ben allt, mae Pea Down (G.Gn.) a Crapham Down (D.Gn.) yn lechweddau, ac mae Crapham Bottom (D.) yn gwm. Mae'r rhifau duon (e.e. 158) yn dangos uchder lleol.
- Mae'r llinellau gwyrdd byr yn dangos llwybrau troed, a mae'r llinellau gwyrdd hir yn dangos llwybrau ceffyl (caniateir cerddwyr a beiciau hefyd).
- Mae'r llinellau duon main yn dangos cloddiau rhwng y caeau.
- Mae'r ardaloedd gwyrdd (yn y dwyrain) yn dangos coed, a fe ddefnyddir yma symbol coed collddail.
- Dangosir ar y map hefyd glwb golff (symbol golff, G), maes parcio (llythyren P, Dn.), hostel ieuenctid (triongl coch, G.Dn.), a thai (e.e. G.Dn.).
- Mae'r hen lythyrennau o'r geiriau Cross Dyke i'r dwyrain yn dangos lle gyda diddordeb hanesyddol.
[golygu] Gwefannau allanol
- Gwefan Cymraeg yr AO
- Arolwg Ordnans Gogledd Iwerddon (OSNI)
- Gwasanaeth Get-a-map
- Cwmnïau eraill sydd yn cyhoeddu mapiau AO ar eu gwefannau: (nodyn: fasai fod eraill; dydy'r rhestr 'ma ddim yn siŵr o fod yn lawn)