30 Chwefror
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yng Nghalendr Gregoriaidd mae mis Chwefror yn cynnwys 28 neu 29 o ddyddiau. Er hynny, tair waith mewn hanes y byd mewn rhai gwledydd, mae ne wedi bod 30 Chwefror.
Derbynnodd Sweden (yn cynnwys Y Ffindir ar y tro) i newid o'r Galendr Julian i'r Calendr Gregoriaidd trwy gadael allan y dyddiau naid am 40 o flynyddoedd, yn dechrau yn y flwyddyn 1700. Felly doedd 1700 ddim yn flwyddyn naid yn Sweden, ond roedd hi yng holl wledydd eraill Ewrop. Yn anfoddus, anghofiodd pobl y plan yn y flynyddoedd 1704 a 1708 -- roedd nhw'n flynyddoedd naid, felly roedd y Calendr Swedeg yn dydd o flaen y Calendr Julian ond roedd Sweden dal yn ddeg diwrnod tu ol i'r Calendr Gregoriaidd. I lleiafu'r penbleth, roedd ne ddwy dyddiau naid ym mis Chwefror yn 1712, ac roedd 30 Chwefror yn cyfatebu 29 Chwefror yn y Calendr Julian a 11 Mawrth yn y Calendr Gregoriaidd. Newidodd Sweden i'r Calendr Gregoriaidd o'r diwedd yn 1753.
Yn 1929, dechreuodd llywodraeth yr Undeb Sofietaidd calendr chwyldroadol, gyda 30 dyddiau ym mhob mis, a'r 5 neu 6 dyddiau gweddill yn wyliau tu allan i pob mis. Felly yn 1930 a 1931 roedd ne 30 Chwefror yn yr Undeb Sofietaidd. Yn 1932 dychwelodd yr Undeb Sofietaidd i'r galendr traddodiadol.
Gwelwch hefyd:
29 Chwefror - 1 Mawrth - 30 Ionawr - 30 Mawrth -- rhestr holl dyddiau
Ionawr, Chwefror, Mawrth, Ebrill, Mai, Mehefin, Gorffennaf, Awst, Medi, Hydref, Tachwedd, Rhagfyr