Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Wicipedia:Sut i olygu tudalen - Wicipedia

Wicipedia:Sut i olygu tudalen

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.


Seilir y Wicipedia ar feddalwedd Wici sy’n galluogi unrhywun i olygu erthygl nad ydy o dan warchae. Ymddengys y newidiadau ar y ddalen yn syth.

Arbrofi:

Os ydych am arbrofi byddwch mor garedig a gwneud hynny yn y blwch tywod yn hytrach na fan hyn. Mewn rhai porwyr mae modd agor y bocs tywod mewn tab neu ffenestr arall er mwyn gallu gweld y dudalen hon a’r arbrofion yn y blwch tywod ar unwaith. I wneud hynny cliciwch i’r dde ar y cyswllt i’r blwch tywod a dewisiwch ‘Open in another window’.

Mae golygu tudalen Wici yn hawdd:

Cliciwch ar y tab ‘golygu’ ar ben y ddalen. O wneud hyn fe gyrhaeddwch y dudalen olygu. Ar y dudalen mae blwch testun ac ynddo’r testun ar ffurf y gellir ei olygu. Mae bar rholio ar ymyl dde y blwch testun i’ch helpu i ddod o hyd i’r man yn y testun y mae angen ei olygu. Wedi i chi orffen golygu yn y blwch testun symudwch i waelod y dudalen olygu trwy ddefnyddio’r bar rholio ar yr ymyl dde yn deg. Islaw y blwch testun daw blychau a botymau i’r golwg fel a ganlyn:

  • blwch ‘crynodeb’ i’ch galluogi i nodi natur y golygiad, e.e. ychwanegu cyswllt, cam-sillafiad. Bydd hyn yn hwyluso gwaith defnyddwyr eraill.
  • blwch ticio ‘Mae hwn yn olygiad bychan’. Gallwch ticio’r blwch os mai cywiro iaith neu camdeipio oedd natur y golygiad. Ni ddylid ticio’r blwch os oes rhyw newid yn y ffeithiau yn yr erthygl. Dim ond defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi fydd yn gweld y blwch hwn.
  • botwm ‘Gweler rhagolwg’. Cliciwch ar hwn ac mewn ychydig eiliadau bydd rhagolwg o’r dudalen orffenedig yn ymdangos ar ben uchaf y dudalen olygu, uwchben y blwch testun. Defnyddiwch y bar rholio ar yr ymyl dde yn deg i symud am lawr ar hyd y dudalen nes y dewch at y blwch testun eto, lle y gallwch barhau i olygu, ac islaw hwnnw at y botymau. Noder bod modd gosod dewisiadau defnyddiwr fel bod y rhagolwg yn ymddangos islaw y blwch testun yn hytrach nag uwch ei ben.
  • blwch ticio ‘Gwylier y dudalen hon’. Ticiwch y blwch os am ychwanegu’r dudalen at eich rhestr gwylio. Dim ond defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi fydd yn gweld y blwch hwn.
  • botwm ‘dangos newidiadau’. O wasgu hwn fe welwch pa newidiadau yr ydych ar fin eu gwneud i’r fersiwn gynt.
  • botwm ‘cadw’r dudalen’. Cliciwch y botwm pan yn fodlon ar y golygiad ac fe weithredir y newidiadau i’r erthygl o fewn eiliadau. Nid oes angen arwyddo’r golygiad i erthyglau arferol gan fod y meddalwedd yn cadw cofnod o bob newid yn awtomatig. Os symudwch o’r dudalen olygu i dudalen arall cyn gwasgu cadw’r dudalen fe gollwch y gwaith teipio a wnaethoch.


Mae tudalen sgwrs i bob erthygl ar gyfer sylwadau gan ddefnyddwyr eraill Wicipedia. Gallwch ymhelaethu ar y rheswm am eich golygiad ar y dudalen sgwrs trwy naill ai glicio ar y tab + neu ar y tab ‘golygwch’ uwchben y dudalen. Os y byddwch yn ychwanegu at y dudalen sgwrs, llofnodwch y darn os gwelwch yn dda, trwy ychwanegu 4 tilda ~~~~, neu yn ôl y canllawiau ar en:Wikipedia:Sign your posts on talk pages.


[golygu] Tips ar olygu erthyglau ar Wicipedia

Defnyddiwch safbwynt niwtral bob amser. Nid lle i hyrwyddo safbwynt bersonol yw Wicipedia. Ysgrifennwch fel petai’r wybodaeth yn ran o erthygl newyddion diduedd. Os ydych yn trafod pwnc dadleuol, gellir egluro y gwahanol safbwyntiau sydd yn bod, dim ond i chi beidio â chynnwys barn bersonol neu ddyfarniad ar gywirdeb rhyw safbwynt arbennig.

Cyfeiriwch at eich ffynonellau fel bod rhywrai eraill yn gallu gwiro neu ehangu eich gwaith. Mae nifer helaeth o erthyglau ar Wicipedia heb gyfeirnodion da arnynt ac mae yn cyfrannu at y feirniadaeth lymaf ar Wicipedia sef nad yw yn ffynhonell dibynadwy. Gallwch hwyluso’r gwaith golygu i eraill sy’n golygu eich cyfraniadau chi trwy ymchwilio ar y we ac ar bapur i ddarganfod cyfeirnodion ar gyfer eich erthygl. Yna cynhwyswch y cyfeirnodion hynny ar waelod yr erthygl, gyda nodyn byr yn cyfeirio at y cyfeirnod llawn yn y testun ei hunan os yw’r ffeithiau a drafodir yn ddadleuol. Un ffordd safonol o osod cyfeirnod byr yng nghanol y testun wedi’r ffaith y mae’n cyfeirio ato yw mewn cromfachau fel hyn: (Awdur, blwyddyn cyhoeddi, tud. rhif tudalen-rhif tudalen). Dylai cyfeirnod llawn gynnwys - Awdur ‘’‘Teitl llyfr’’’, Cyhoeddwr, blwyddyn cyhoeddi, cyfeirnod ISBN’’’ – ar gyfer llyfr ac – Awdyr, ’Teitl yr erthygl’, dyddiad cyhoeddi, dyddiad y lawrlwythwyd os ar y we – ar gyfer erthygl o gylchgrawn.

Mae rhai yn ei gweld yn gyfleus i gopïo testun i'w olygu o Wicipedia i raglen trin testun ar eich cyfrifiadur, golygu a gwirio'r sillafu yno ac yna copïo'r testun terfynol nôl i Wicipedia. Trwy wneud hyn, gallwch gadw copi o'r tudalennau y buoch yn gweithio arnynt ar eich cyfrifiadur.

Ar ôl cwblhau tudalen newydd, argymhellir i chwi:

  • bwyso ar y botwm 'Beth sy'n cysylltu yma' yn y blwch offer er mwyn dilyn trywydd y cysylltiadau i'r erthygl newydd sydd eisoes yn bodoli. Gellir cadarnhau bod pwnc yr erthygl yn cyfateb i ystyr y gair sy'n cysylltu;
  • ddefnyddio'r botwm 'Chwilio' i ddarganfod erthyglau eraill sy'n cynnwys teitl yr erthygl newydd, neu amrywiadau arno. Gellir creu cysylltiadau o'r erthyglau hyn at yr erthygl newydd; a
  • chreu tudalennau ailgyfeirio o amrywiadau ar deitl yr erthygl, gan gynnwys camsillafiadau, amrywiaethau ar atalnodi neu sillafu, a thermau amgen.


[golygu] Cystrawen wici

Rhoddir enghreifftiau o gystrawen wici ar y dudalen Wicipedia:Enghreifftiau cystrawen wici. Isod ceir enghrheifftiau o'r 6 cystrawen wici amlaf eu defnydd.

Yng ngholofn chwith y tabl isod gwelir pa waith dylunio sy'n bosib ei wneud ar wicipedia. Yn y golofn dde disgrifir sut y crëir yr effeithiau hyn, h.y. beth sydd angen ei deipio i greu'r ffurf ar y testun a ddangosir ar y chwith.


Os ydych am gadw'r dudalen hon wrth law gallwch gadw'r dudalen ar agor mewn ffenestr arall.


I ymddangos fel hyn teipiwch hyn

Gallwch italeiddio'r testun drwy osod 2 gollnod ar bob ochr iddo.


Bydd 3 collnod naill ochr yn creu testun teip trwm.

Bydd 5 collnod naill ochr yn creu testun trwm wedi italeiddio.


(Nid yw 4 collnod yn creu dim amgen na thestun trwm ag 'un collnod dros ben'.)

Gallwch ''italeiddio'r testun'' drwy 
osod 2 gollnod ar bob ochr iddo. 

Bydd 3 collnod naill ochr yn creu 
'''testun''' teip trwm. 

Bydd 5 collnod naill ochr yn creu 
'''''testun''''' trwm wedi italeiddio.

(Nid yw 4 collnod yn creu dim amgen na 
thestun trwm ag ''''un collnod dros 
ben''''.)

Dylech "lofnodi'ch" sylwadau ar dudalennau sgwrs gyda:
- 3 tilde ar gyfer eich enw defnyddiwr: Karl Wick
- 4 tilde ar gyfer eich enw defnyddiwr, yr amser a'r dyddiad: Karl Wick 07:46, 27 Tach 2005 (UTC)
- 5 tilde ar gyfer yr amser a'r dyddiad yn unig: 07:46, 27 Tach 2005 (UTC)

Dylech "lofnodi'ch" sylwadau ar 
dudalennau sgwrs gyda: <br>
- 3 tilde ar gyfer eich enw 
defnyddiwr: ~~~ <br>
- 4 tilde ar gyfer eich enw defnyddiwr, 
yr amser a'r dyddiad: ~~~~ <br>
- 5 tilde ar gyfer yr amser 
a'r dyddiad yn unig: ~~~~~ <br>
Penawdau adrannau

Gallwch ddefnyddio penawdau i drefnu erthygl yn adrannau. Mae meddalwedd wici yn gallu cynhyrchu taflen gynnwys awtomatig o'r penawdau.

Isadran

Defnyddiwch rhagor o'r symbol hafal i greu isadrannau.


Isadran llai

Peidiwch â hepgor lefel, e.e. trwy roi 4 symbol hafal ar ôl 2 ohonynt.

Dechreuwch â 2 symbol hafal yn hytrach nag 1 oherwydd bod un yn creu tagiau H1 ar gyfer teitlau erthyglau.

== Penawdau adrannau ==

Gallwch ddefnyddio ''penawdau'' i drefnu 
erthygl yn adrannau.
Mae meddalwedd wici yn gallu cynhyrchu
taflen gynnwys awtomatig o'r penawdau.

=== Isadran ===

Defnyddiwch rhagor o'r symbol hafal i
greu isadrannau.

==== Isadran llai ====

Peidiwch â hepgor lefel, e.e. trwy roi 
4 symbol hafal ar ôl 2 ohonynt. 

Dechreuwch â 2 symbol hafal yn hytrach 
nag 1 oherwydd bod un yn creu tagiau 
H1 ar gyfer teitlau erthyglau.
  • I greu rhestr heb ei threfnu:
    • Dechreuwch pob llinell â seren.
      • Mae rhagor o sêr yn ychwanegu is-lefelau.
    Mae'r eitem gynt yn parhau.
    • Mae llinell newydd
  • yn y rhestr

yn nodi diwedd y rhestr.

  • Gallwch ddechrau rhestr arall o'r newydd.
* I greu ''rhestr heb ei threfnu'':
** Dechreuwch pob llinell â seren.
*** Mae rhagor o sêr yn creu is-lefelau.
*: Mae'r eitem gynt yn parhau.
** Mae llinell newydd
* yn y rhestr  
yn nodi diwedd y rhestr.
* Gallwch ddechrau rhestr arall o'r newydd.
  1. Mae rhestri wedi'i rhifo yn:
    1. drefnus iawn
    2. hawdd i'w dilyn.

Noda linell newydd ddiwedd y rhestr.

  1. Dechreua rhestr newydd â'r rhif 1.
# Mae ''rhestri wedi'i rhifo'' yn:
## drefnus iawn
## hawdd i'w dilyn.
Noda linell newydd ddiwedd y rhestr.
# Dechreua rhestr newydd â'r rhif 1.

Dyma gyswllt i'r dudalen Alotrop. Gallwch ysgrifennu alotropau ac fe ymddengys y cyswllt yn gywir.

Dyma gyswllt i'r dudalen
 [[Alotrop]].
Gallwch ysgrifennu 
[[alotrop]]au
ac fe ymddengys y cyswllt 
yn gywir.

Nid yw'r dudalen Tywydd Moscow yn bod eto. Gallwch ei greu drwy bwyso ar y cyswllt.

Nid yw'r dudalen
[[Tywydd Moscow]] yn  
bod eto. Gallwch ei greu drwy 
bwyso ar y cyswllt.

Gallwch gysylltu ag adran o fewn erthygl:

Os oes nifer o adrannau â'r un un teitl ganddynt ychwanegwch rif. Aiff y cyswllt #Example section 3 i'r trydydd adran o'r enw "Example section".


Gallwch gysylltu ag adran o fewn erthygl:


*[[Cymraeg#Cymraeg Cynnar]].

Os oes nifer o adrannau â'r un un teitl 
ganddynt ychwanegwch rif. Aiff y cyswllt
[[#Example section 3]] i'r trydydd adran
o'r enw "Example section".

[golygu] Tablau

[golygu] Gosod y daflen gynnwys (TOC)

Yn ôl cystrawen wici ar hyn o bryd fe ymddengys y daflen gynnwys pan bod pedwar neu ragor o benawdau mewn erthygl. Fe ymddengys o flaen y pennawd cyntaf. Er mwyn dileu'r daflen rhowch __DIMTAFLENCYNNWYS__ rhywle yn yr erthygl. Gweler Wicipedia:Taflen cynnwys ar sut i greu taflenni cryno yn seiliedig ar yr wyddor neu'r flwyddyn.


[golygu] Newidynnau

Cod Effaith
{{MISCYFOES}} 12
{{ENWMISCYFOES}} Rhagfyr
{{GENENWMISCYFOES}} December
{{DYDDIADCYFOES}} 9
{{ENWDYDDCYFOES}} Dydd Sadwrn
{{FLWYDDYNCYFOES}} 2006
{{AMSERCYFOES}} 23:26
{{NIFEROERTHYGLAU}} 5,932

NIFEROERTHYGLAU: nifer yr erthyglau sydd â chyswllt ynddynt ac nad ydynt yn dudalennau ailgyfeirio, h.y. nifer yr erthyglau, egin erthyglau â chyswllt ynddynt a thudalennau gwahaniaethau.

Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com