Rhuthun
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Rhuthun Sir Ddinbych |
|
Mae Rhuthun yn dref fach, oedd â phoblogaeth o 5,218 yn 2001 (47% gwryw, 53% benyw, oed cyfartaledd 43.0). Hi yw tref sirol Sir Ddinbych, ac fe'i lleolir ar hyd yr Afon Clwyd yn rhan ddeheuol Dyffryn Clwyd. Mae gan y dref hen gastell, a adeiladwyd tua 1280, ond cafodd ei ddymchwel ar ôl y Rhyfel Cartref, ac fe'i ail-adeiladwyd fel gwesty mawr yn y 19eg ganrif.
[golygu] Hanes
Codwyd castell yn Rhuthun gan Edward I o Loegr tua'r flwyddyn 1280.
Ar Ddydd Gŵyl Mathew (23 Medi, 1400) llosgodd Owain Glyndŵr dref Rhuthun i gyd i lawr, heblaw'r castell.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhuthun ym 1973. Am wybodaeth bellach gweler:
[golygu] Cysylltiadau allanol
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.
Trefi a phentrefi Sir Ddinbych |
Corwen | Dinbych | Llanelwy | Llangollen | Prestatyn | Rhuddlan | Rhuthun | Y Rhyl |