Radio
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ffordd o anfon signalau heb fod trwy weiar, trwy modyliad tonnau electromagnetig ar amleddau is nag amleddau golau yw radio. Gelwir y peiriant sydd yn derbyn y signalau a'u troi yn sain, sef y derbynnydd radio, hefyd yn aml yn 'radio'.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Dechreuodd hanes y radio mewn nifer o lefydd. Dangosodd Nikola Tesla y radio cyntaf i'r cyhoedd yn St. Louis, Missouri yn UDA ym 1893. Y flwyddyn wedyn, bu Syr Oliver Lodge, ffisegydd o Brydain yn defnyddio peiriant o'r enw coherer i gario signalau ar donnau radio. Bu Edouard Branly o Ffrainc ac Alexander Popov o Rwsia yn diwygio'r peiriant hon.
Cofrestrodd Guglielmo Marconi breinlen cyntaf y byd ar gyfer radio ym 1896 (British Patent 12039) ac ym 1909 cafodd Marconi a Karl Ferdinand Braun Gwobr Nobel Ffiseg am gyfrannu i ddatblygiad technoleg radio. Ym 1898, adeiladwyd y ffatri radio cyntaf gan Marconi, hefyd. Safai'r ffatri yn Hall Street, Chelmsford, Lloegr ac roedd tua 50 o bobl yn gweithio ynddi.
Trawsyrrwyd y rhaglen radio cyntaf ar Noswyl Nadolig 1906 o Brant Rock, Massachusetts i longau ar y môr. Darlledwyd y rhaglen newyddion cyntaf ar 31 Awst, 1920 o Detroit, Michigan ac ym 1922 dechreuwyd darlledu rhagleni adloniant yn rheolaidd am y tro cyntaf o'r Marconi Research Centre (Canolfan Ymchwil Marconi) a oedd yn y ffatri radio yn Writtle ger Chelmsford, Lloegr.
Mae datblygiadau technolegol yr ugeinfed ganrif ym maes radio yn cynnwys transistorau, lloerenni i drosglwyddo signalau a radio rhyngrwyd.
[golygu] Darlledu yn Gymraeg ar y radio
Cyndyn iawn oedd y BBC i ddarlledu yn Gymraeg a Gaeleg yn nyddiau cynnar radio.[1] Cynhyrchai gorsaf darlledu Caerdydd peth o'i deunydd ei hun yn y 1920au, gan gynnwys ambell i gân a sgwrs Gymraeg. Ar orsaf 5WA, Caerdydd, y clywyd Cymraeg gyntaf erioed ar y radio ar 13 Chwefror, 1923 ar gân gan Mostyn Thomas, ac ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1923 ar lafar gan y Parchedig Gwilym Davies ac yna gan Huw J. Huws.[2] Ond ardal Caerdydd yn unig a glywai'r darllediadau Cymraeg hyn. Yr unig raglen Gymraeg a glywid ledled Cymru oedd y rhaglen a ddarlledwyd o 1927 ymlaen o Ddulyn. [1] Yr oedd arweinyddiaeth y BBC yn cynnal polisi darlledu cenedlaethol Brydeinig a Seisnig ac yn gwrthod sefydlu gwasanaeth Cymreig na Chymraeg am hir amser. Wedi ymgyrchu dygn yng Nghymru caniatawyd i stiwdio Bangor gynhyrchu rhaglenni Cymraeg o 1935 ymlaen. Darllediad gan David Lloyd George ar 8 Tachwedd 1923 oedd y darllediad Cymraeg cyntaf o stiwdio Bangor. [2]
Roedd Pwyllgor Darlledu Prifysgol Cymru yn rhan bwysig o'r ymgyrchu ac erbyn 1937 llwyddwyd i sefydlu Rhanbarth Cymreig y BBC yn lle rhanbarth y Gorllewin ('Teyrnas y Brenin Arthur') a gynhwysai de-orllewin Lloegr yn ogystal â Chymru. [1] Roedd cwynion gwrandawyr de-orllewin Lloegr am yr ychydig oriau o ddarlledu Cymraeg hefyd yn rhan o'r pwysau ar y BBC i sefydlu'r Rhanbarth Cymreig. Ond pan ddechreuodd yr ail ryfel byd diddymwyd gwasanaeth Rhanbarth Cymru'r BBC. Bu raid i Undeb Cymru Fydd ymgyrchu dros adfer y darllediadau Cymraeg. Llwyddwyd i gael tair awr a hanner yr wythnos erbyn 1940. 1940 oedd y flwyddyn y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ar y radio.
Adferwyd gwasanaeth radio Rhanbarth Cymru yn 1945 ond bu'n rhaid disgwyl hyd 1977 cyn y cafwyd y gwasanaeth Cymraeg cyflawn cyntaf, sef Radio Cymru ar y BBC. Hywel Gwynfryn oedd cyflwynydd cyntaf Radio Cymru. Dim ond yn ystod y bore y darlledwyd rhaglenni ar y dechrau, ond erbyn heddiw mae rhaglenni Cymraeg yn dechrau am 5 o'r gloch y bore ac yn terfynu am 1 o'r gloch y bore wedyn. Mae hi'n bosib clywed y rhaglenni hyn ar y we, hefyd.
Darlledir yn rhannol yn Gymraeg ar orsafoedd radio masnachol hefyd. Mae Champion 103 ym Mangor yn darlledu i Ynys Mon a rhannau o Wynedd ar 103 FM gyda rhaglenni Cymraeg brecwast a'r prynhawn. Mae 'chwaer orsaf' Champion Coast 96.3 yn darlledu i lannau'r Gogledd gyda rhaglenni Cymraeg gyda'r nos. Mae Classic Gold Marcher yn Ne Ddwyrain Cymru a rhannau o Sir Gaer yn rhannu rhaglenni Cymraeg Champion 103 a Coast 96.3. Mae Radio Ceredigion yn darlledu ers 1992 o Aberystwyth ac o'r stiwdio ar gampws y theatr yn Felinfach ar 96.6, 97.4 a 103.3 FM. Ymhlith y rhai sydd wedi symyd o Radio Ceredigion i Radio Cymru mae Geraint Lloyd a Marc Griffiths. Mae Sain Abertawe wedi bod yn darlledu rhaglenni Cymraeg ers 1976. Mae Valleys Radio yng Nglyn Ebwy yn rhannu rhai rhaglenni Cymraeg. Credir fod GCap Media, sy'n berchen ar Champion, Coast a Red Dragon yng Nghaerdydd yn ystyried cychwyn gorsaf Gymraeg ar DAB yn y Brifddinas.
[golygu] Ffynnonellau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 John Davies, Hanes Cymru, tt 542, 566 (The Penguin Press, 1990)
- ↑ 2.0 2.1 Gwyn Jenkins, Andy Misell, a Tegwyn Jones, Llyfr y Ganrif, tud. 101 (y Lolfa, 1999)