Neil Jenkins
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Neil Jenkins (ganed 8 Gorffennaf 1971) yn gyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb sydd wedi sgorio mwy o bwyntiau dros Gymru nag unrhyw chwaraewr arall.
Ganed Neil Jenkins yn Gartholwg, a chwaraeodd rygbi i glybiau Pontypridd a Chaerdydd.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 1991 pan oedd yn 19 oed. Gallai chwarae fel maswr, canolwr neu gefnwr. Aeth ymlaen i ennill 87 o gapiau dros Gymru a sgorio 1049 o bwyntiau, sydd ar hyn o bryd (2005) yn record y byd am bwyntiau rhyngwladol. Aeth heibio'r record flaenorol o 911 a ddelid gan Michael Lynagh o Awstralia yn ystod Cwpan y Byd yn 1999 a chyrhaeddodd y nôd o fil o bwyntiau yn erbyn Lloegr yn 2001.
Yr oedd Jenkins yn giciwr heb ei ail - yn y tymor 2003/4, llwyddodd i sgorio gyda phob un o 44 cic yn olynol i'r Celtic Warriors, hynny hefyd yn record y byd ar hyn o bryd (2005).
Aeth ar daith i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig yn 1997 a chwaraeodd fel cefnwr ymhob un o'r tair gêm brawf. Enillodd y Llewod y gyfres o ddwy gêm i un, a chicio Jenkins fu'n gyfrifol am hynny i rannau helaeth. Aeth ar daith eto gyda'r Llewod i Seland Newydd yn 2001, ond oherwydd anafiadau ni chafod daith mor llwyddiannus y tro yma.
Ni chafodd le yn sgwad Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn 2003, ac yn ddiweddarach cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol. Yn Hydref 2005 penodwyd ef a Robyn McBride yn hyfforddwyr sgiliau i helpu chwaraewyr rhyngwladol y dyfodol yn y bedair academi ranbarthol.