Betws-y-Coed
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Betws-y-Coed Conwy |
|
Mae Betws-y-Coed yn dref yng Nghonwy, ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Gerllaw, mae'r Bont Waterloo haearn yn cario'r A5 dros Afon Conwy. Mae Afon Llugwy, sy'n rhedeg trwy'r pentref, yn ymuno ag Afon Conwy gerllaw.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Yr enw
Un o'r hen enwau ar y pentref oedd Betws Wyrion Iddon. Fe'i gelwid hefyd Llanfihangel y Betws yn ôl y Parochiale Wallicanum ("Plwyfi Cymru") a gyhoeddwyd yn 1721. Ystyr betws yw "capel anwes, tŷ gweddi neu eglwys fach", ac mae'n air Cymraeg Canol sy'n fenthyciad o'r gair Hen Saesneg bede-hūs (bead-house). Ystyr yr enw Betws-y-Coed felly yw "Y Tŷ Gweddi yn y Coed", er bod bead-house yn gallu golygu "elusendy" hefyd yn Sasneg.
[golygu] Daearyddiaeth
Mae'r pentref presennol yn wasgaredig ar ddwy lan Afon Llugwy lle egyr y dyffryn allan wrth ymuno â dolydd isel gwastad Dyffryn Conwy. Mae'r ardal yn goediog iawn ond erbyn heddiw mae'r hen goedwigoedd cysefin wedi ildio lle i goedwigoedd pinwydd trwchus y Comisiwn Coedwigaeth sy'n gorchuddio'r bryniau i'r gogledd ac i'r de o Fetws-y-Coed. Tu draw i Goedwig Gartheryr, i'r de, mae Llyn Elsi yn gorwedd.
[golygu] Hanes
Hyd at y 16eg ganrif roedd Betws yn rhan o blwyf Llanrhychwyn a honno yn ei thro yn rhan o gwmwd Nant Conwy yn nghantref Arllechwedd. Ymddengys fod eglwys wedi sefyll ym Metws ers Oes y Seintiau. Mae cwrs ffordd Rufeinig, a elwir Sarn Helen fel cynifer o'i thebyg, yn pasio'n agos i'r pentref ar ei ffordd o gaer Canovium i Ddyfryn Lledr ac mae cangen ohoni'n rhedeg i fyny dyffryn Afon Llugwy i Gapel Curig. Rhywbryd yn y 15fed ganrif codwyd Pont-y-Pair dros Afon Llugwy (gweler isod).
Tyfodd y pentref yn gyflym yn ail hanner y 19eg ganrif. Daeth yn fangre boblogaidd iawn gan arlunwyr o dros Glawdd Offa ac am gyfnod roeddynt yn ffurfio cylch artistaidd tebyg i'r un a gafwyd yn St Ives yng Nghernyw. Mae nifer o dai yn y pentref yn dyddio o'r cyfnod hwnnw a blynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif.
[golygu] Yr hen eglwys
Mae Eglwys Fihangel Sant, neu Llanfihangel, yn hen iawn. Mae'n sefyll rhwng yr orsaf rheiffordd ac Afon Conwy ar ochr ddwyreiniol y pentref. Mae'r rhannau hynaf o'r adeilad presennol yn dyddio o'r 14eg ganrif neu'n gynnar yn y 15fed ganrif. Dichon ei bod wedi'i chysegru i sant lleol ar un adeg cyn cael ei ail-gysegru i Sant Fihangel, efallai yn yng nghyfnod y Normaniaid. Mae bedyddfaen yr eglwys yn perthyn i'r 12fed ganrif, yn ôl pob tebyg. Y tu ôl i'r allor ceir beddfaen cerfiedig Gruffudd ap Dafydd Goch, un o wyrion Dafydd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Mae'r cerflun yn dangos Gruffudd yn ei arfwisg lawn ac yn dwyn yr arysgrif,
- HIC JACET GRVFYD AP DAVYD GOCH : AGNVS DEI MISERE ME
- (Yma y gorwedd Gruffudd ap Dafydd Goch: Boed i Oen Duw fod yn drugarhaol wrthyf)
Mae tair ywen hynafol yn tyfu ym mynwent yr eglwys. Mae'r hen borth i'r eglwys yn ddiddorol hefyd, ac yn dyddio o 1750. Yn nyfroedd Afon Conwy ger yr eglwys gellir gweld hen gerrig camu a ddefnyddid ar un adeg i groesi'r afon. Yn ymyl yr eglwys yn ogystal mae hen bont grog haearn a phren ar gyfer cerddwyr.
[golygu] Pont-y-Pair
Rhywbryd yn y 15fed ganrif, efallai, codwyd pont gerrig hardd Pont-y-Pair dros Afon Llugwy (fe'i priodolir i Inigo Jones weithiau, ond mae hi'n hŷn na hynny). Mae ganddi bump bwa â'r un yn ei chanol yn rhychwantu'r geunant ddofn islaw. Mae Pont-y-Pair yn denu nifer o bobl yn yr haf ac mae rhai pobl yn neidio i'r afon o'r bont neu o'r creigiau yn ei hymyl.
[golygu] Y pentref heddiw
Ers canrif a mwy mae Betws wedi bod yn boblogaidd gan ymwelwyr ac yn ganolfan hwylus ar gyfer ymweld ag Eryri. Mae nifer o westai yn y pentref a cheir sawl siop offer dringo a cherdded yn y stryd fawr. Mae'r rhan fwyaf o'r tai wedi'u hadeiladu â cherrig lleol. Mae gan y pentref boblogaeth o 1,187 (Cyfrifiad 2001).
Ceir amgueddfa a chanolfan ymwelwyr yn yr hen orsaf.
[golygu] Atyniadau eraill
Hanner ffordd rhwng Betws a Chapel Curig mae'r Tŷ Hyll. Cyn cyraedd y tŷ, rhyw 2 filltir o'r pentref, mae'r Rhaeadr Ewynnol ("Swallow Falls" yn Saesneg).
[golygu] Llyfryddiaeth
- Harold Hughes a Herbert L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; adargraffiad 1984)
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Colwyn | Betws-y-Coed | Conwy | Dolwyddelan | Llandudno | Llanfairfechan | Llanrwst | Penmaenmawr |