Anfetel
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Anfetel yw un fath o elfen gyda phriodweddau penodol. Maent yn elfennau gydag egnïon ïoneiddiad uchel, sy'n eu galluogi i ffurfio anïonau yn hawdd trwy ennill electronau ac yn arwain at fath o fondio a elwir yn fondio cofalent. Oherwydd y bondio yn yr elfennau hyn, mae ganddynt briodweddau cyffelyb a nodweddiadol. Maent yn bresennol mewn canranau uwch na'r metelau ar y ddaear, er bo dros hanner yr elfennau naturiol yn fetelau. Ar y tabl cyfnodol mae'r anfetelau ar y dde gyda llinell igam-ogam yn eu gwahanu'r o'r metelau. Mae'r llinell yn rhedeg o foron i boloniwm, gyda'r elfennau o amgylch y llinell yn lled-fetelau.
Yr anfetelau yw'r Halogenau, Nwyon Nobl a'r elfennau canlynol yn nhrefn eu rhifau atomig:
[golygu] Priodweddau ffisegol
Mae'r anfetelau yn solid a nwyon, gydag un hylif (bromin) ar dymheredd ystafell. Mae'r mwyafrif o'r solidau yn bwl o ran eu golwg, gyda'i lliwiau yn amrywio. Maent hefyd yn:
- Ynysyddion trydanol heblaw am rhai esiamplau prin fel graffit (alotrop o garbon) a ffosfforws du (alotrop o ffosfforws) sy'n dargludo oherwydd eu hadeiledd cyffelyb, anghyffredin.
- Ynysyddion thermol
- Deunyddiau brau, sy'n torri pan ceisir newid siâp yr elfennau solid.
[golygu] Priodweddau cemegol
Mae anfetelau yn ennill electronau yn hawdd i ffurfio anïonau, felly maent yn adweithio gyda metelau i ffurfio cyfansoddion ïonig. Maent hefyd yn medru rhannu electronau gydag atomau anfetel arall mewn bondiau cofalent. Maent yn ffurfio ocsidau asidig trwy adweithio gydag ocsigen.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.