Robin Cook
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gwleidydd a chyn Ysgrifennydd Gwladol yn Llywodraeth Tony Blair yn San Steffan oedd Robert Finlayson 'Robin' Cook (28 Chwefror 1946 – 6 Awst 2005). Cafodd ei eni yn Bellshill, yr Alban. Etholwyd ef i'r senedd yn 1974. Mae ei araith adeg cyhoeddi Adroddodiad Scott ar 26 Chwefror 1994 ar werthu arfau i Iraq yn enwog ac roedd yn nodedig o feistrolgar er na chafodd ond dwy awr i'w pharatoi.
Yn gynnar yn 2003 ef oedd un o'r prif wrthwynebwyr dros fynd i ryfel yn Iraq, ac fe wnaeth ymddiswyddo o'r cabinet. Disgrifiwyd ei araith ymddiswyddo yn y Ty Cyffredin gan Andrew Marr, gohebydd y BBC fel yr un mwyaf godidog ac effeithiol yng ngwleidyddiaeth modern Prydain.
Bu farw'n annisgwyliedig wrth gerdded yn y mynyddoedd yn yr Alban.