Phil Williams
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd y Dr Phil Williams (11 Ionawr, 1939 - 10 Mehefin, 2003), yn wyddonydd ac yn wleidydd o fry. Fe'i hetholwyd yn aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol dros etholaeth ranbarthol De Ddwyrain Cymru yn 1999. Fe'i ganwyd yn Nhredegar ond fe'i magwyd ym Margoed. Cafodd radd ddwbl mewn ffiseg ddamcaniaethol ac yn darach Ph.D. yng Nghaergrawnt. Roedd yn wyddonydd blaengar ym maes gwyddoniaeth y gofod. Penodwyd ef yn ddarlthydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1967, ac yn athro Ffiseg Solar-Terrestial yn 1991.
Yn aelod o Blaid Cymru ers 1961 chwaraeodd ran flaenllaw yn natblygiad polisi y blaid. Ef oedd cadeirydd cenedlaethol cyntaf y blaid, a bu yn ymgeisydd seneddol ac yn ymgeisydd Ewropiaidd i'r blaid. Daeth o fewn trwch blewyn i ennill is-etholiad Caerffili yn y 60au.
Fe'i etholwyd yn Wleidydd Cymreig y Flwyddyn Sianel 4 yn y flwyddyn 2000.