Neil Kinnock
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Neil Gordon Kinnock (ganwyd 28 Mawrth 1942), yn wleidydd o Gymru, arweinydd y Blaid Lafur 1983-1992.
Roedd e'n un o'r prif ymgyrchwyr yn erbyn polisi'r Blaid Lafur adeg refferendwm cael cynulliad i Gymru yn 1979. Bu Kinnock yn wrthwynebus i'r iaith Gymraeg ar hyd ei yrfa. Cyhuddodd un o ysgolion Gwynedd o rwystro plentyn rhag mynd i'r toiled am nad oedd yn gallu gofyn yn y Gymraeg. Dangosodd ymchwiliad bod y cyhuddiad yn gwbwl ddi-sail. Cred llawer ei fod wedi bradychu'r glowyr yn ystod y Streic Fawr a arweiniodd at danseilio'r diwydiant glo, gan chwalu nifer fawr o gymunedau.
Gwraig Neil Kinnock yw Glenys Kinnock.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.