Sgwrs Defnyddiwr:Llygadebrill
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Croeso am y wicipedia. Deb 17:51, 2 Chwefror 2006 (UTC)
[golygu] Polynomial
Rwyf wedi adolygu'r erthygl ar bolynomialau ac wedi cynnig rhai gwelliannau i'r mynegiant Cymraeg ynddo (nid i'r cynnwys) ar y dudalen sgwrs. A allech chi edrych arno i sicrhau nad wyf wedi newid ystyr yr erthygl ar gam (mae'r pwnc yn un anghyfarwydd i mi)? Dyma ychydig nodiadau ar y diwygiadau:
- Cefais afael ar algebrydd (ion) am algebrist (s) yng Ngeiriadur yr Academi. Methais cael gafael ar y term algebraewr yn unman.
- Meidraidd yw finite yn ôl rhai geiriaduron (ystyr arferol meidrol yw mortal).
- Byddwn i yn tybied mai body yw corff. Ai finite body oedd ganddoch mewn golwg gyda corff meidrol?
- Os nad yw a'r unig amod ar X yw yn plesio cynigiaf gan ofyn yn unig o X.
Diolch i chi am wneud yr holl waith yma ar fathemateg ar gyfer y Wicipedia – mae'n dda gennyf gweld ochr wyddonol y wicipedia yn tyfu. Lloffiwr 17:13, 1 Mehefin 2006 (UTC)
[golygu] Groeg hynafol
Wedi cynnig teitl amgen ar gyfer Groeg hynafol. Cofion. Lloffiwr 19:10, 25 Tachwedd 2006 (UTC)
[golygu] Penrhyncoch Cardis
Wedi sylwi eich bod wedi rhoi nodyn tudalen amheus ar Penrhyncoch Cardis. Allwch chi hefyd roi nodyn am hwn ar y dudalen trafod Wicipedia:Tudalennau amheus gyda'r rheswm ei fod yn amheus (siwr mai'r ffaith nad yw'r pwnc sydd yn debygol o ehangu i fod yn erthygl llawn oedd gennych mewn golwg)? Diolch. Lloffiwr 22:04, 26 Tachwedd 2006 (UTC)