Kenneth Griffith
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Actor a gwneuthurwr ffilmiau dogfen oedd Kenneth Ewen Griffith (12 Hydref, 1921 - 25 Mehefin, 2006). Cafodd ei eni yn Ninbych-y-Pysgod ac mae wedi ei gladdu ym mynwent Penally Sir Benfro.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Actor
Ef oedd yn gweithio'r radio ar y Titanic sef Jack Phillips yn y ffilm A Night to Remember, ac ef oedd Whitey y meddyg hoyw yn Wild Geese (1978). Gwerthfawrogir ei waith ar y rhaglenni teledu The Prisoner. Ef yw'r "hen ddyn dwl" yn Four Weddings and a Funeral(1994), y Parch Jones yn The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain (1995) a'r "Gweinidog" yn Very Annie Mary (2001).
[golygu] Gwneuthurwr Ffilmiau Dogfen
Yn y 70au daeth yn gefnogwr o'r IRA. Gwnaeth ffilm ddogfen am fywyd a marwolaeth y Gwyddel [[Michael Collins o'r enw Hang up your Brightest Colours sef llinell allan o lythyr oddi wrth George Bernard Shaw at un o chwiorydd Colins.
Gwnaeth raglen ddogfen a ddarlledwyd ar BBC2 ar y redwraig o Dde Affrica Zola Budd
[golygu] Ffilmiau
- Blue Scar (1949)
- Private's Progress (1956)
- A Night to Remember (1958)
- I'm All Right Jack (1959)
- Only Two Can Play (1962)
- The Wild Geese (1978)
- The Sea Wolves (1980)
- Four Weddings and a Funeral (1994)
- The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain (1995)
- Very Annie Mary (2001).
[golygu] Teledu
- Buddenbrooks (1965)
- The Prisoner (1968)
- Hang Up Your Brightest Colours
- Curious Journey
- The Perils of Pendragon (1974)
Enw'r cartref yw "Ty Michael Collins".
[golygu] Dolenau allanol
- erthygl BBC
- rhestr marwolaethau BBC
- Ceir erthyglau am Kenneth Griffith yn rhifyn Gorffennaf / Awst 2006 o'r cylchgrawn Cymreig Saesneg ei hiaith, Cambria [[1]]