Hen Ddelhi
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Hen Ddelhi yw'r rhan hynafol o ddinas Delhi mewn cyferbyniaeth â Delhi Newydd, prifddinas swyddogol India.
Codwyd yr Hen Ddinas yn 1639 ar safle dinasoedd cynharach Delhi oedd yn dyddio'n ôl i tua 1500 CC.
O fewn muriau Hen Ddelhi mae nifer o henebion diddorol o gyfnod y Mogẃliaid, yn cynnwys y Gaer Goch (sydd yn ei thro yn cynnwys Palas Ymherodrol Shah Jahan) a'r Jami Masjid (Y Brif Fosg).
Mewn cyferbyniaeth lwyr â rhodfeydd agored Delhi Newydd, mae strydoedd Hen Ddelhi'n gul a phrysur.